Iaith Indo-Ewropeaidd a siaradir yn rhanbarth ddaearyddol Punjab ar isgyfandir India yw Pwnjabeg.
Mae'n perthyn i is-deulu'r ieithoedd Indo-Iraneg ac yn agos iawn i Wrdw.
Enghraifft o'r canlynol | iaith fyw, iaith naturiol |
---|---|
Math | Punjabi dialects and languages |
Lleoliad | Punjab, Kashmir |
Enw brodorol | پنجابی |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-3 | pan, pnb |
Gwladwriaeth | Pacistan, India, y Deyrnas Unedig, Cenia, Maleisia, De Affrica, Bangladesh, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Canada, Gwlad Tai, Ffiji, Affganistan, Sawdi Arabia, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Unol Daleithiau America, Awstralia, Singapôr, Unknown |
Rhanbarth | Azad Kashmir, Jammu a Kashmir, Unknown, Gorllewin Bengal, Punjab, Haryana, Delhi, Punjab, Islamabad Capital Territory |
System ysgrifennu | Shahmukhi, Gurmukhi, Urdu orthography |
Corff rheoleiddio | Department of Languages, Punjab, Punjab Institute of Language, Art, and Culture |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cadarnle'r Bwnjabeg yw talaith y Punjab yn India a thalaith y Punjab ym Mhacistan. Ceir yn ogystal nifer o siaradwyr Pwnjabeg yn nhaleithiau Rajasthan ac Uttar Pradesh. Mae'n iaith swyddogol talaith Punjab India.
Yn nhermau daearyddiaeth ieithyddol, mae'r iaith yn ffinio â'r ieithoedd Lahnda i'r gogledd (Jammu a Kashmir), Rajastani i'r de, Hindi i'r dwyrain a Pahari Orllewinol a Dardeg i'r gogledd-ddwyrain.
Yn niwylliannol mae gan yr iaith Bwnjabeg gysylltiad cryf â chrefydd Siciaeth, a sefydlwyd ar ddiwedd y 15g. Dyfeisiwyd yr wyddor Gurmukhi, seiliedig ar Nagari (gwyddor Hindi ac ieithoedd eraill). Cyn y 19g, Perseg ac Wrdw oedd ieithoedd llenyddol y Punjab, ond gyda thyfiant ymwybyddiaeth gymunedol y Siciaid daethpwyd i ddefnyddio'r iaith lafar fwyfwy fel cyfrwng llenyddol ac erbyn heddiw mae llenyddiaeth Bwnjabeg wedi hen ennill ei phlwyf.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pwnjabeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.