Crefydd a sefydlwyd yn y 19g yw'r grefydd Bahá'í neu'r Ffydd Bahá'í; mae Bahá'í (Farsi: بهائی) mewn gwirionedd yn ansoddair yn disgrifio'r grefydd yn hytrach nag enw'r grefydd ei hun, gall hefyd ddisgrifio unigolyn sy'n ddilynwr Bahá'u'lláh.
Sefydlwyd hi gan Bahá'u'lláh ym Mhersia, ac erbyn hyn mae ganddi bump neu chwe miliwn o ddilynwyr trwy'r byd.
Enghraifft o'r canlynol | crefydd |
---|---|
Math | Crefyddau Abrahamig |
Dechrau/Sefydlu | Unknown |
Sylfaenydd | Mīrzā Ḥoseyn ʻAlī Nūrī, |
Gwefan | https://bahai.org, https://bahai.no |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pwysleisia dysgeidiaeth Bahá'í undod ysbrydol dynoliaeth, ac undod sylfaenol yr holl brif grefyddau. Ystyrir fod olyniaeth o negeseuwyr, yn cynnwys Abraham, Moses, Zoroaster, y Buddha, Krishna, Iesu, Muhammad a'r diweddaraf, y Báb a Bahá'u'lláh. Credant fod bob negesydd wedi datgan y bydd y negesydd nesaf yn ei ddilyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bahá'í, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.