Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan

Prifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion ydy Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.

Ar ôl prifysgolion hynafol Rhydychen a Chaergrawnt a phrifysgolion yr Alban, dyma yw'r sefydliad prifysgol hynaf ym Mhrydain. A'r brifysgol yn dysgu ymron 2000 o israddedigion, Prifysgol Llanbedr Pont Steffan oedd y brifysgol leiaf yn Ewrop. Yn Rhagfyr 2009, unwyd y coleg â Choleg y Drindod, Caerfyrddin i ffurfio prifysgol newydd, sef Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a dderbyniodd ei siartr brenhinol ar 21 Mehefin 2010.

Prifysgol Cymru,
Llanbedr Pont Steffan
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan
Arwyddair Gair Duw Goreu Dysg
Sefydlwyd 1822
(siarter brenhinol 1828)
Math Cyhoeddus
Gwaddol £5.9M (2004/2005)
Canghellor Y Tywysog Siarl
Is-ganghellor Medwin Hughes
Staff 200
Myfyrwyr 9,150
Israddedigion 7,455 (1,100 yn byw ar y campws)
Ôlraddedigion 1,035
Lleoliad Llanbedr Pont Steffan, Baner Cymru Cymru
Campws Gwledig
Cyn-enwau Coleg Dewi Sant
Coleg Prifysgol Dewi Sant
Lliwiau Du ac aur
Tadogaethau Prifysgol Cymru
ACU
Universities UK
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan
Gwefan http://www.llambed.ac.uk/

Hanes

Pan benodwyd Thomas Burgess yn Esgob Tyddewi yn 1803, teimlodd angen mawr i sefydlu coleg lle y gallai dynion ifanc hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth.

Nid oedd gan Burgess unrhyw gysylltiadau Cymreig; fe'i ganed yn Lloegr ym 1756 ac ar ôl treulio amser yng Nghaerwynt a Rhydychen arhosodd am gyfnodau byr yn Salisbury a Durham cyn cael ei benodi i'w esgobaeth gyntaf yng Nghymru ym 1803. Gadawodd ym 1825 i fod yn Esgob Salisbury a bu farw ym 1837. Yn wreiddiol bwriad Burgess oedd adeiladu ei goleg newydd i hyfforddi offeiriaid yn Llanddewi Brefi (oedd ar y pryd yn debyg o ran maint i Lanbedr Pont Steffan, deg cilomedr i ffwrdd ac yn fan pwysig yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru), ond pan oedd Burgess yn aros gyda'i gyfaill Esgob Caerloyw ym 1820 cyfarfu â John Scandrett Harford, dyn cyfoethog a thirfeddiannwr mawr yn ardal Llanbedr Pont Steffan. Rhoddodd Harford safle tair erw i Burgess, sef Maes y Castell (safle'r brifysgol heddiw).

Fel hyn, Sefydlwyd Coleg Dewi Sant ym 1822 a derbyniwyd y myfyrwyr cyntaf ar Wyl Ddewi 1827. Derbyniodd ei siartr cyntaf ym 1828. Am dros ganrif yr oedd yn goleg gradd annibynnol, yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, ond gan gadw cyswllt agos â'r eglwys. Yn y 1960au tyfodd cysylltiadau â Prifysgol Cymru ac yn sgil hynny daeth yn gymwys i dderbyn cymorth llawn gan y Trysorlys. Ym 1971 daeth yn sefydliad cyfansoddol o Brifysgol Cymru a'i alw'n Goleg Prifysgol Dewi Sant. Ym 1996 mewn ymateb i ddeiseb o'r Brifysgol - newidiwyd y teitl gan y Cyfrin Gyngor i Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yn unol â datblygiadau o fewn y brifysgol ei hun ac er mwyn cydnabod twf a newid yn statws y sefydliad.

Heddiw mae Llanbedr Pont Steffan yn un o'r deg Sefydliad Cyfansoddol sy'n ffurfio Prifysgol Ffederal Cymru sydd, ar ôl Prifysgol Llundain, gyda'r mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol.

Adeiladau

Yr Hen Goleg

Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan 
Yr Adeilad Dewi Sant

Yr Hen Adeilad, sef Adeilad Dewi Sant heddiw, oedd yr adeilad gwreiddiol a gynlluniwyd gan C.R. Cockerell a dyma lety'r myfyrwyr cyntaf ym 1827. Mae'n cynnwys ystafelloedd darlithio, ystafelloedd cyffredin, llety myfyrwyr a'r canlynol:

Yr Hen Neuadd sef y ffreutur tan agor y ffreutur bresennol - ym 1969 - ac ni bu llawer o ddefnydd ohoni tan 1991 pan gafodd ei hadnewyddu a'i hailagor; erbyn hyn mae'r neuadd yn cael ei defnyddio fel un o'r prif ystafelloedd cyhoeddus ar gyfer cynnal cyfarfodydd, cynadleddau ac i'w defnyddio gan gyrff allanol.

Adnewyddwyd Capel Dewi Sant yn ystod y 1930au yn bennaf trwy ddarparu reredos newydd ym 1933 ac atgyweirio sylweddol ar yr organ ym 1934.

Llyfrgell Y Sylfaenwyr oedd llyfrgell y coleg hyd at agor y llyfrgell newydd ym 1966 ac erbyn hyn mae'n diogelu casgliad o tua 20,000 o lyfrau a chyfnodolion a argraffwyd rhwng 1470 a 1850. Mae'r casgliad yma yn hollol unigryw i Lanbedr Pont Steffan.

Adeiladau Newydd

Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan 
Yr Adeilad Caergaint Gwreiddiol

Yr Adeilad Caergaint a agorwyd ym 1897, ond dymchwelwyd ym 1971. Agorwyd yr adeilad Caergaint newydd gan Is-Ganghellor Prifysgol Caint ym 1973.

Y llyfrgell newydd, a agorwyd gan Dug Caeredin, Canghellor Prifysgol Cymru, yn 1966.

Adeilad y Celfyddydau, a agorwyd gan Peter Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn 1971, ar yr un pryd a'r Adran Daearyddiaeth newydd.

Theatr Cliff Tucker, a agorwyd gan Syr Anthony Hopkins yn 1995.

Adeilad Sheikh Kalifa (yr Adran Ddiwinyddiaeth newydd) a agorodd yn Ffordd y Coleg yn Hydref 1997.

"Gweiddi'r Coleg"

O'r llawlyfr myfyrwyr 1938-39:

Hip Hip Hooray
Hip Hip Hooray
Hip Hip Hooray
Nawr Dewi. Nawr Dewi. Nawr Dewi.
Dy Blant. Dy Blant. Dy Blant.
Backshe Odinthorog. Backshe Odinthorog.
Niri Giri Wari. Niri Giri Wari.
Zey Zey Zey
Bing Bang Odin. Bing Bang Odin.
Io Dewi. Io Dewi. Io Dewi.
Dewi Sant. Dewi Sant. Dewi Sant.
Hooray!

Oriel

Academyddion hynod

  • Y Parch Athro Ernest William Hunt (Diwinyddiaeth)
  • Athro Thomas Frederick Tout (Hanes)
  • Y Parch Athro Rowland Williams (Hebraeg)
  • Rabbi Athro Dan Cohn-Sherbok (Astudiaethau Iddewig)
  • Athro Chris Philo (Daearyddiaeth)
  • Athro Tim Cresswell (Daearyddiaeth)
  • Y Parch Athro Paul Badham (Diwinyddiaeth)
  • Athro Michael Shanks (Archaeoleg)
  • Athro Harold Arthur Harris (Lladin a Groeg)
  • Athro Mary Grey (Diwinyddiaeth Ffeministaidd)
  • Athro David Cockburn (Athroniaeth)

Graddedigion

  • E. A. Markham - Bardd ac awdur
  • Christopher Herbert - Esgob St Albans
  • Sulak Sivaraksa - Gweithredwr Cymdeithasol
  • Adrian Mourby - Ysgrifennwr, BBC Cymru
  • Sue Slipman - Llywydd UCM 1977-78; Cyfarwyddwraig Cyfrifoldeb y Grwp Camelot.
  • Rhodri Glyn Thomas - Gwleidydd Plaid Cymru
  • Daniel Silvan Evans - Athro yr Iaith Gymraeg, Prifysgol Cymru

Adrannau

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan HanesPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan AdeiladauPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan Gweiddir ColegPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan OrielPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan Academyddion hynodPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan GraddedigionPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan AdrannauPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan CyfeiriadauPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan Dolenni allanolPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont SteffanCaergrawntCeredigionColeg y Drindod, CaerfyrddinLlanbedr Pont SteffanPrifysgolPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantRhydychenYr Alban

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Anna VlasovaDiddymu'r mynachlogyddEilianCymdeithas Bêl-droed CymruCaethwasiaethDerbynnydd ar y topElectronegMacOSMervyn KingCyfnodolyn academaiddEliffant (band)Comin WicimediaDewiniaeth CaosGwibdaith Hen FrânCebiche De TiburónSiarl II, brenin Lloegr a'r AlbanOwen Morgan EdwardsKurganPeniarthDisgyrchiantCymraegMôr-wennol1584Talcott ParsonsThe Silence of the Lambs (ffilm)Geraint JarmanCellbilenDagestanIranOmorisaYsgol y MoelwynDestins ViolésBanc LloegrTsiecoslofaciaBitcoinWicipedia CymraegCoridor yr M4Ffilm llawn cyffroEternal Sunshine of the Spotless MindHuw ChiswellBatri lithiwm-ionGareth Ffowc RobertsMartha WalterDoreen LewisMyrddin ap DafyddSbaenegSeliwlosMorgan Owen (bardd a llenor)La Femme De L'hôtelGertrud ZuelzerAnilingusSant ap CeredigLionel MessiMark HughesWelsh TeldiscAnnibyniaeth13 AwstYmlusgiadGorgiasUsenetEgni hydroDal y Mellt (cyfres deledu)Olwen ReesLleuwen SteffanZulfiqar Ali BhuttoThe Father🡆 More