Prif fwyd poblogaidd mewn nifer o ddiwylliannau yw nwdls.
Fe’i gwneir o does croyw sy’n cael ei ymestyn neu ei rholio’n fflat a’i dorri mewn i un o amrywiaeth o siapiau. Er mai stribedi hir a thenau yw’r rhai mwyaf cyffredin, ceir llawer o fathau o nwdls wedi eu torri i mewn i donnau, tiwbiau, llinynnau, neu gregyn. Fel arfer fydd nwdls yn cael eu coginio mewn dŵr berwedig, weithiau gydag olew coginio neu halen, ac yn aml maent yn cael eu ffrïo. Yn aml bydd nwdls yn cael eu gweini gyda saws neu mewn cawl. Gellir eu cadw mewn oergell ar gyfer storio tymor byr, neu gellir eu sychu a’u storio i’w defnyddio yn y dyfodol.
Mae tystiolaeth o darddiad nwdls yn ffafrio’n ddrwm tuag at Tsieina. Mae’r cofnod ysgrifenedig cynharaf o nwdls i'w gael mewn llyfr wedi ei dyddio i’r cyfnod Han Dwyreiniol. Daeth nwdls a wnaed o does gwenith yn brif fwyd i bobl y Brenhinllin Han. Yn ystod y Brenhinllin Tang cafodd nwdls eu torri’n stribedi, ac yn y Brenhinllin Yuan dechreuwyd gwneud nwdls wed’u sychu.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Nwdl, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.