Iaith a siaredid yn Shetland ac Ynysoedd Erch tan y cyfnod modern yw'r Norn.
Mae hi'n perthyn yn agos i'r Norwyeg a Ffaröeg. Erbyn heddiw tafodiaith Albanaidd yw'r Shetlandeg a siaredir ar yr ynysoedd (er bod dylanwad y Norn yn gryf arni).
Math | iaith farw, extinct language |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyflwynwyd yr iaith yn y 9g ar draul yr iaith Picteg. Bu farw siaradwr olaf yr iaith tua 1850. Yn 1894 ymwelodd Jacob Jacobsen ieithydd o Ynysoedd Ffaroe ag ynysoedd Shetland ac Erch, ond enwedig Shetland, er mwyn cofnodi'r iaith Norn fyddai'n debyg i'w Ffaroeg ef. Cofnododd oddeutu 10,000 o eiriau gan hen drigolion yr ynysoedd. Yn 1928 cyhoeddodd ei ymchwil yn y llyfr yn Daneg,Etymologisk ordbog over det norrøne sprog på Shetland (a gyfieithwyd yn ddiweddarach i'r Saesneg). Yn 1929 cofnododd Albanwr, Hugh Marwick, oddeutu 3,000 o eiriau o dafodiaeth Ynysoedd Erth o'r iaith.
Mae mudiad i adfywio'r iaith gan ei alw'n Nynorn. Ceir trafodaeth ar seineg ac orgraff yr iaith a faint dylid echdynnu o'r dylanwad yr iaith Sgoteg a dreiddiodd i'r iaith dros genedlaethau.
Dyma Weddi'r Arglwydd yn Norn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Norn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.