Newyddiadurwraig ac ymgyrchydd hawliau dynol o Iran yw Narges Mohammadi (Perseg: نرگس محمدی; ganed 21 Ebrill 1972).
Enillodd Wobr Heddwch Nobel yn 2023 "am ei brwydr yn erbyn gormes menywod yn Iran ac am ei brwydr i hyrwyddo hawliau dynol a rhyddid i bawb".
Narges Mohammadi | |
---|---|
Narges Mohammadi | |
Ganwyd | 21 Ebrill 1972 Zanjan |
Alma mater | |
Cyflogwr | |
Priod | Taghi Rahmani |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Per Anger Prize, Andrei Sakharov Prize, Gwobr 100 Merch y BBC, International Alexander Langer Award, Gwobr Olof Palme, Gwobr UNESCO/Guillermo Cano - Rhyddid Gweisg y Byd, Weimar Human Rights Prize |
Ganed hi yn Zanjān, yng ngogledd-orllewin Iran, i deulu Aseraidd. Yn sgil Chwyldro Iranaidd ym 1979, cafodd rhai o aelodau ei theulu eu carcharu a'u dienyddio gan lywodraeth yr Aiatola Ruhollah Khomeini. Astudiodd ffiseg ym Mhrifysgol yr Imam Khomeini, yn Qazvīn, yn y 1990au, a bu'n wleidyddol weithgar ar y campws. Wedi iddi raddio, cychwynnodd Mohammadi ar ei gyrfa yn beiriannydd i gwmni arolygu adeiladau. Yn y brifysgol cyfarfu â Taghi Rahmani, aelod o'r mudiad democrataidd Melli Mazhabi, a phriodasant ym 1999. Cawsant efeilliaid—mab a merch—yn 2006.
Dechreuodd Mohammadi ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau o blaid y bloc Diwygiol, gan ganolbwyntio ar hawliau dynol ac hawliau merched yn enwedig. Er i un o'r Diwygwyr, Mohammad Khatami, gael ei ethol yn arlywydd ym 1997, parhaodd erledigaeth wleidyddol gan luoedd diogelwch y wlad, a chafodd Rahmani ei garcharu dwywaith. Yn 2003 ymunodd Mohammadi â'r Ganolfan Amddiffynwyr Hawliau Dynol, a sefydlwyd gan y gyfreithiwraig hawliau dynol Shirin Ebadi yn Tehran yn 2001.
Yn 2008, yn ystod arlywyddiaeth Mahmoud Ahmadinejad, gwaharddwyd y Ganolfan Amddiffynwyr Hawliau Dynol a chynyddodd yr erledigaeth yn erbyn gwrthwynebiad i'r llywodraeth. Yn sgil y protestiadau a therfysgoedd yn 2009, cafodd Mohammadi ei harestio a chymerwyd ei phasbort oddi arni. Yn 2011, ffoes Rahmani a'u plant yn alltud i Ffrainc. Yn y blynyddoedd i ddod, câi Mohammadi ei harestio a'i chyhuddo o droseddu sawl gwaith, a fe'i carcharwyd o 2016 i 2020. Cafodd ei charcharu eto yn 2021 wedi iddi mynd i wasanaeth coffa i Ebrahim Ketabdar, ymgyrchydd a laddwyd yn ystod protest yn 2019, a fe'i cyhuddwyd o ddosbarthu propaganda yn erbyn y wladwriaeth. Ers hynny cedwir hi yn y ddalfa, ac mae wedi arwain gweithgareddau addysgol ac hamddenol ar gyfer ei chyd-garcharorion.
Enwebwyd Mohammadi ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel yn gyntaf yn 2021, a cheisiodd yr awdurdodau yn Iran defnyddio'r enwebiad i brofi'r cyhuddiad o danseilio'r wladwriaeth. Ar 6 Hydref 2023 cyhoeddwyd hi yn enillydd y wobr. Hyhi ydy'r ail unigolyn o Iran i dderbyn y wobr ar ôl ei hen fos, Shirin Ebadi, yn 2003, a'r pumed person i gael ei cyhoeddi'n enillydd tra'n gaethiwed. Ar 10 Rhagfyr 2023 derbyniodd ei mab a'i merch, 17 oed, y wobr ar ran eu mam yn seremoni wobrwyo Nobel yn Oslo, Norwy, a darllenasant araith a gafodd ei ysgrifennu gan Mohammadi a'i smyglo allan o'r carchar. Yn Ionawr 2024, cafodd Mohammadi ei dedfrydu i 15 mis ychwanegol o garchar gan y Llys Chwyldroadol yn Iran.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Narges Mohammadi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.