Roedd Mary Jones (16 Rhagfyr 1784 - 28 Rhagfyr 1864) yn ferch i wehydd o Lanfihangel-y-Pennant, Sir Feirionnydd.
Yn ôl arferiad yr oes, oherwydd mai Saeson oedd yn cofrestru genedigaethau 'Mary' a sgwennwyd ar ei thystysgrif geni, ond 'Mari' fyddai ei henw o ddydd i ddydd.
Mari Jones | |
---|---|
Ganwyd | 16 Rhagfyr 1784 |
Bu farw | 28 Rhagfyr 1864 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Yn ferch ifanc bymtheg oed, yn 1800, dywedir iddi gerdded yn droednoeth o bwthyn bach y teulu, "Ty'n y Ddôl", Llanfihangel-y-Pennant i Abergynolwyn, drwy'r Brithdir yr holl ffordd i'r Bala er mwyn prynu Beibl gan y Methodist enwog Thomas Charles. Yn ôl traddodiad dyna'r digwyddiad a ysbrydolodd sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804.
Bu farw'n 80 oed a'i chladdu ym Mryn-crug ble ceir cofeb iddi.
Ar flaen y gofadail i Mari Jones a godwyd ar safle adfeilion y bwthyn lle trigai yn Llanfihangel-y-Pennant, ger pen gogleddol Pont Ty'n-y-fach, ceir yr arysgrif ddwyieithog hon:
YR HON YN Y FLWYDDYN 1800, LLE HWN I'R BALA, I YMOFYN BEIBL
|
Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl llyfr am ei hanes gan Robert Oliver Rees
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mari Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.