Roedd David Llewellyn Harding (12 Hydref, 1867 – 26 Rhagfyr, 1952), a oedd yn defnyddio'r enw llwyfan Lyn Harding, yn actor Cymreig a dreuliodd 40 mlynedd ar y llwyfan cyn mynd i wneud ffilmiau mud, ffilmiau llais a rhaglenni radio.
Roedd ganddo bresenoldeb llwyfan mawreddog a bygythiol a arweiniodd at o'n cael ei gastio fel y gelyn mewn nifer o ffilmiau, yn arbennig rhan yr Athro Moriarty mewn addasiadau dramatig o straeon Sherlock Holmes.
Lyn Harding | |
---|---|
Ganwyd | David Llewellyn Harding 12 Hydref 1867 Llansanffraid Gwynllŵg |
Bu farw | 26 Rhagfyr 1952 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Ganwyd Lyn Harding yn Llansanffraid Gwynllŵg yn fab i Richard Harding ac Elizabeth (née Llywellyn). Ar adeg ei eni roedd y teulu yn byw ar aelwyd ei dad cu, Dafydd Llywelyn, sef tafarn Church House. Roedd yr aelwyd yn un Gymraeg ei iaith ac roedd y teulu yn driw i achos yr Annibynwyr. Wedi marwolaeth ei dad cu a salwch ei dad etifeddodd Lyn y dafarn a bu'n gweithio fel tafarnwr wrth orffwys rhwng cynyrchiadau.
Dechreuodd ei yrfa fel prentis i ddilledydd yng Nghasnewydd, cyn symud ymlaen i fod yn weithiwr yn siop dillad crand Samuel Hall & Co., Stryd Fawr, Caerdydd. Dechreuodd roi darlleniadau o waith Shakespeare ac awduron eraill mewn capeli a chyfarfodydd cymdeithasol yng Nghaerdydd gan ennill clod fel un o adroddwr gorau'r ddinas Ym 1890, digwyddodd taro ar grŵp o actorion teithiol ar drên ac wedi sgwrs gofynnwyd iddo lenwi dros actor oedd yn dioddef salwch yn eu perfformiad. Trwy hyn cafodd ei ran broffesiynol cyntaf yn y ddrama The Grip Of Iron a agorodd ar 28 Awst 1890 yn y Theatr Royal, Bryste. Wedi hynny bu'n teithio'r theatrau taleithiol gan dderbyn clod beirniadol am ei berfformiadau grymus.
Ym 1894 aeth ar y cyntaf o'i deithiau rhyngwladol gan berfformio yn India, China a Japan. Cafodd ei rôl gyntaf yn Llundain yn Theatr Shakespeare, Clapham, ar 19 Gorffennaf 1897. Wedi hynny bu'n ffigwr amlwg ar lwyfannau Llundain yn chware roliau megis Dug Efrog yn Richard II yn y Theatr Royal ym 1903, Bill Sikes yn Oliver Twist (1905), Prospero yn The Tempest ym 1906.
Gwnaeth ei ymddangosiad ffilm gyntaf ym 1920 yn chware'r brif ran, Feather Dakers, yn A Bachelor Husband; ffilm rhamant wedi selio ar stori gyfres i ferched gan Ruby M. Ayres, a gyhoeddwyd gyntaf yn y Daily Mirror.. Bu'n actio mewn pedwar ffilm fud arall cyn gwneud ei ffilm sain gyntaf Sleeping Partners (1930) ffilm arswyd lle mae gwraig sy'n cael ei hanwybyddu gan ei gŵr yn gwario noson gyda hen ddyn gwŷd (Harding) ar ôl iddo roi cysbair iddi. Aeth ymlaen i chware mewn tua 20 o ffilmiau eraill gan gynnwys fersiwn 1937 o I Claudius a fersiwn 1939 o Goodby Mr Chips. Bu'n gweithio ar wahanol adegau gyda John Gielgud, Ralph Richardson ac Anthony Quayle.
Ei ymddangosiad llwyfan olaf oedd fel Abu Hassan yn Chu Chin Chow yn y West End ym 1941 pan oedd yn 74 mlwydd oed. Yn 80 oed, chwaraeodd rhan Owain Glyndŵr yn Henry IV Shakespeare ar gyfer radio'r BBC.
Bu farw yn Llundain yn 85 mlwydd oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Lyn Harding, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.