Mae llathen (llath gyda rhifau heblaw am un; weithiau llathaid; lluosog llathenni, weithiau llathenau; talfyriad a symbol Saesneg yd ) - yn enw ar uned o fesur Uned Eingl-Sacsonaidd yn ogystal ag ar hen uned Gymreig.
Mae'n un o unedau sylfaen systemau mesur y Deyrnas Unedig ac Unol Daleithiau America. Mae'n hafal i dair troedfedd neu 36 modfedd, ac mae ei hyd mewn unedau SI yn amrywio yn dibynnu ar y system. Y llathen a ddefnyddir amlaf yw'r llathen ryngwladol, sy'n mesur 0.9144 metr yn union. Mae 1,760 llath yn hafal i 1 filltir Seisnig.
Yn gyfatebol, defnyddir unedau llathen sgwâr a llathen giwbig hefyd. Weithiau mae'r unedau hyn hefyd yn cael eu cyfeirio atynt fel "llathen" hefyd.
Mae 1 llathen ryngwladol yn cyfateb i:
Cyn Deddfau Uno roedd gan Gymru ei unedau mesur Cymreig a phwyso ei hun, yn seiliedig gan amlaf ar y corff dynol a'r byd amaethyddol.
Daw'r gair llath o'r Celteg tybiedig, *slattā sydd gytras â'r Saesneg Canol latthe o'r Hen Almaeneg Uchel, latia ac yn gyfystyr â'r Gwyddeleg, 'slat'. Ei ystyr yw "ffon, gwialen feinsyth cymharol hir" a ceir y cyfeiriad cofnodedig cynharaf o'r gair o'r 13g ac hynny yng nghyd-destun gwialen a hefyd fel mesuriad. Ceir y cyfeiriad cynharaf cofnodedig ato fel mesur wrth gyfeirio at Gyfraith Hywel Dda; A deunaw troet ued yg gwialen Hywel da; a deunaw llath auyd yn hyt yr erw, a dwylath o let.
"Gwialen neu ffon o amrywiol hyd (yn wreiddiol 18 troedfedd, yn cyfateb i 13.5 o droedfeddi modern) i fesur tir, erwydden .... yn amrywio o 11.5 i 24 o droedfeddi; cufydd, tua 18 modfedd, sef hyd y fraich o'r penelin i'r hirfys yr hyd hwnnw o frethyn &c (yr ystyr gyffredinol bellach) mesur hyd safonol sef 3 troedfedd neu 26 o fodfeddi .."
Yng Nghymru'r Oesoedd Canol roedd y droedfedd yn uned fesur sylfaenol a cheir cyfeiriadau ati yng Nghyfraith Hywel; ond naw modfedd yn hytrach na deuddeg oedd hyd y droedfedd Gymreig. Roedd y llath Gymreig tua 40 modfedd. Cofied bod tri troedfedd Gymreig yn creu cam ("pace") Saesnig.
Mae'r gair yard yn Saesneg, ac yn ei dro y gair iard yn Gymraeg, yn deillio o'r hen air am ffon neu wialen syml. Mae'r enw yn deillio o'r Hen Saesneg, gerd, gyrd ac ati a ddefnyddiwyd ar gyfer canghennau, trosolion a gwiail mesur. Fe'i tystiwyd gyntaf yng nghyfreithiau Ine (hefyd Ina), Brenin Wessex o ddiwedd y 7g, lle mai'r "iard of land" a grybwyllir yw'r "yardland", hen uned asesu treth yn Lloegr sy'n hafal i groen (hide) 1⁄4.
Mae union darddiad yr uned ei hun yn ansicr - mae rhai pobl yn credu ei fod yn dyblu'r cufydd neu'n deillio o uned gyfaint; dywed eraill fod yr iard yn fesur o'ch cam. Dyfaliad arall yw bod yr iard i fod i ddod o gylchedd gwasg y person.
Yn hanesyddol, mae dwy fersiwn o'r uned:
Mae'n amhosibl arsylwi ar y gwahaniaeth rhyngddynt heb offer mesur arbenigol, gan mai dim ond 0.0000312 milimetr ydyw (0.0312 micrometr). Ar hyn o bryd, mae'r ddau yn cael eu pennu gan y mesurydd.
Ar ôl cyflwyno'r system SI, cafodd ei disodli gan y metr, ond mewn gwledydd Saesneg eu hiaith mae'n dal i gael ei ddefnyddio ym mywyd beunyddiol ac mewn llenyddiaeth.
Er i'r rhan fwyaf o wledydd y Gymanwlad Brydeinig ddiosg y System Imperial a mabwysiadu'r System fetrig mae'r hen drefn yn dal i gael ei harddel, os nad yn gyfredol, yna fel sail ar gyfer sawl camp chwaraeon.
Defnyddir yr iard fel yr uned safonol o fesur hyd cae mewn Pêl-droed Americanaidd, Pêl-droed Canadaidd, pêl-droed, dimensiynau cae criced, ac mewn rhai gwledydd, mesuriadau llwybr rhodrio ('fairway') golff.
Roedd mesur gwrthrych neu arwynebedd yn ôl gwialen neu ffon yn gyffredin hyd at ac wedi'r Oesoedd Canol. Defnyddiwyd amrywiaeth ar y llath mewn sawl gwlad arall, ac yn aml wrth gair gynhenid am 'gwialen' neu ffon' (Ffrangeg verge, Sbaeneg vara). Er na arddelir y mesuriadau yma bellach yn swyddogol yn Sbaen na Gwlad Belg, roedd y termau a'r mesuriadau yn cyfateb yn fras i'r llath neu'r yard Seisnig.
Mae'r wialen neu'r vara Sbaenaidd yn mesur 0.835905 metr.
Y "vara de Burgos", a ardystiwyd er 1348, oedd prif fesur Teyrnas Castilla i ddechrau. Ym 1568, dan deyrnasiad Felipe II, brenin Sbaen o Sbaen, mab Siarl V, daeth yn wialen a mesur swyddogol Sbaen gyfan.
Mae llath Gwlad Belg yn hen uned gyfatebol o arwynebedd, yn y rhan Ffrangeg ei hiaith o'r wlad ar 436 m2 (neu oddeutu 23 llath yr hectar). Yn y rhan o'r wlad sy'n siarad Iseldireg, mae'n cyfateb i union 500 m2 (neu 20 llath yr hectar). Mae 20 "llathen Ffrangeg" yn cyfateb, yng Ngwlad Belg, i 'bonnier'.
Defnyddir yr idiom "ddim llawn llathen" i gyfeirio at berson â nam meddyliol neu heb fod yn ei iawn bwyll.
Ceir y gair hudlath (hud + llath) i olygu 'wand' yn y Gymraeg, sef ffon hud. Defnyddir y gair 'llath' mewn sawl cyd-destun wrth gyfeirio at wialen neu ffon yn hytrach nag fel mesuriad.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llathen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.