Habib Ben Ali Bourguiba (Arabeg: الحبيب بو رقيبة), (3 Awst 1903 – 6 Ebrill 2000) oedd arlywydd cyntaf Tiwnisia.
Cafodd ei eni ym Monastir. Fe'i addysgwyd yn y Sorbonne, Paris.
Habib Bourguiba | |
---|---|
Ganwyd | 3 Awst 1903 Monastir |
Bu farw | 6 Ebrill 2000 Monastir |
Dinasyddiaeth | French protectorate of Tunisia, Tiwnisia |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | Speaker of the Assembly of the Representatives of the People, Arlywydd Tiwnisia, Prif Weinidog Tiwnisia, Minister of Foreign Affairs, Minister of Defence |
Plaid Wleidyddol | Neo Destour |
Priod | Wassila Ben Ammar, Moufida Bourguiba |
Plant | Habib Bourguiba, Jr. |
Gwobr/au | Coler Urdd Isabella y Catholig, Urdd Sant Olav, Order of the Republic, Order of Independence, Urdd yr Eliffant, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd Brenhinol y Seraffim, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Sofia, Urdd Teilyngdod Sifil, The honorary doctor of Lebanese University |
Gwefan | https://www.bourguiba.com |
llofnod | |
Yn 31 oed daeth Bourguiba yn arweinydd y mudiad dros annibyniaeth oddi ar Ffrainc yn Tiwnisia pan sefydlodd y Blaid Neo-Destour. Cafodd ei arestio yn 1938 a'i alltudio i Ffrainc. Dychwelodd i Tiwnisia ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ond cafodd ei alltudio eto, i Cairo y tro yma, yn 1947. Oddi yno gweithiodd yn ddyfal i hysbysu'r byd am sefyllfa Tiwnisia dan reolaeth Ffrainc. Erbyn 1951 bu rhaid i Ffrainc ildio rywfaint. Treuliodd gyfnod arall mewn alltudiaeth ar ôl dychwelyd am rai misoedd i arwain llywodraeth dros dro. Arweiniodd hyn at brotestiadau ac ymosodiadau gan genedlaetholwyr ac erbyn Mehefin 1955 doedd gan y Ffrancod ddim dewis ond i adael i Bourguiba ffurfio llywodraeth led-annibynnol.
Ar ôl ennill annibyniaeth ffurfiol (20 Mawrth, 1956) aeth ati i greu gwladwriaeth fodern yn rhinwedd ei swydd fel arlywydd cyntaf y wlad (25 Gorffennaf, 1957 - 7 Tachwedd, 1987). Roedd yn arweinydd deallus a charismatig ac yn ystod ei arlywyddiaeth tyfodd cwlt personoliaeth o'i gwmpas (enwir prif strydoedd trefi a dinasoedd Tiwnisia er anrhydedd iddo hyd heddiw). Roedd ei feddylfryd yn rhyddfrydig ac agored ar sawl pwnc gwleidyddol a chymdeithasol, er iddo sicrhau fod awennau'r llywodraeth yn gadarn yn ei ddwylo ei hun. Rhoddai bwyslais eithriadol ar addysg a hawliau merched a cheisiodd foderneiddio'r wlad trwy wahardd amlwreicaeth (poligami) a gwisgo'r burka gan ferched a chodi mur rhwng y wladwriaeth a chrefydd.
Ond ni phlesiwyd pawb gan ei lywodraeth. I'r beirniaid rhyddfrydol doedd o ddim wedi symud digon pell i gyfeiriaid y fodel democrataidd Gorllewinol a cheid gormod o enghreifftiau o lwgrwobrwyo a nawdd wleidyddol. Tua diwedd ei oes wynebai wrthwynebiad gan nifer gynyddol o radicalwyr Islamaidd yn ogystal ac roedd y wlad yn wynebu argyfwng. Syrthiodd yn wael iawn ac roedd ei afael ar y llywodraeth yn llac. Roedd ei benderfyniadau'n eratig. Yn y diwedd cafodd ei ddisodli gan ei olynydd Zine el-Abidine Ben Ali, y Gweinidog Cartref penderfynol, mewn amgylchiadau amheus pan arwyddwyd tystysgrif gan griw o feddygon yn tystio ei fod yn rhy wael i fynd ymlaen (ac un o'r meddygon yn protestio nad oedd wedi gweld y claf ers dwy flynedd).
Cafodd Bourguiba ei gadw o'r golwg yn y palas arlywyddol yn Carthage Présidence, ger Tunis, ac oddi yno i balas arall ym Monastir lle bu farw ar 6 Ebrill 2000. Codwyd beddrod marweddog iddo ym Monastir, ei ddinas enedigol, ar ôl ei farwolaeth. Roedd y mwyafrif o bobl Tiwnisia yn ei barchu'n fawr. Roedd wedi arwain ei wlad i annibyniaeth, creu system gweddol ddemocrataidd, gosod sylfeini gwladwriaeth les, rhoi lle anrhydeddus i ferched yn y gymdeithas a datblygu economi cryf a olygodd fod gan y Tiwnisiaid safon byw ymhlith y gorau yn y byd datblygol.
Rhagflaenydd: Muhammad VIII al-Amin (Brenin) | Arlywydd Tiwnisia 25 Gorffennaf 1957 – 7 Tachwedd 1987 | Olynydd: Zine El Abidine Ben Ali |
Mae'r rhan fwyaf o'r cyfrolau am Bourguiba yn llyfrau Ffrangeg:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Habib Bourguiba, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.