Gwennol ddu Apus apus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Apodiformes |
Teulu: | Apodidae |
Genws: | Apus[*] |
Rhywogaeth: | Apus apus |
Enw deuenwol | |
Apus apus | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gwennol ddu (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: gwenoliaid duon) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Apus apus; yr enw Saesneg arno yw Eurasian swift. Mae'n perthyn i deulu'r Coblynnod (Lladin: Apodidae) sydd yn urdd y Apodiformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. apus, sef enw'r rhywogaeth.
Heblaw wrth y nyth, nid yw'r Wennol Ddu byth yn glanio o'i bodd; yn hytrach mae'n treulio ei holl fywyd yn hedfan. Mauersegler neu "mur-gydiwr" yw'r gair Almaeneg amdani, sy'n adlewyrchu'r ffaith ei bod yn aml yn cydio mewn boncyff coeden gyda'i thraed pitw.
Aderyn mudol ydyw, yn nythu yn Ewrop a rhan helaeth o Asia, ac yn gaeafu yn rhan ddeheuol Affrica. Defnyddir adeiladau ar gyfer nythu fel rheol. Mae'n aderyn gweddol gyffredin mewn cynefinoedd addas yng Nghymru.
Ceir nifer o hen enwau arni, llawer ohonynt yn ymwneud â chyfriniaeth neu grefydd: coblyn, gwrach yr ellyll, asgell hir, aderyn yr eglwys, aderyn du'r llan, y biwita (the bewitched one), y folwen, sgilpen, marthin du (black bird of St. Martin), y wennol ddu fawr, gwennol y dŵr (ardal Llandysul), gwennol fuan.
Mae'r gwennol ddu yn perthyn i deulu'r Coblynnod (Lladin: Apodidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Corgoblyn Awstralia | Aerodramus terraereginae | |
Corgoblyn German | Aerodramus germani | |
Corgoblyn Lowe | Aerodramus maximus | |
Corgoblyn Maÿr | Aerodramus orientalis | |
Corgoblyn Ynysoedd Cook | Aerodramus sawtelli | |
Corgoblyn mynydd | Aerodramus hirundinaceus | |
Corgoblyn tinwyn | Aerodramus spodiopygius |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwennol ddu, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.