Cantores a chwaraewr allweddellau Gymreig ydy Gwenno Mererid Saunders (ganed 23 Mai 1981).
Mae wedi teithio'r byd efo Pnau (Empire Of The Sun) ac Elton John. Cyn hynny bu'n aelod o fand pop The Pipettes. Mae hi'n siaradwraig Cymraeg rugl a hefyd yn siarad Cernyweg. Caiff Gwenno ei hadnabod weithiau fel Gwenno Pipette. Cyhoeddodd albwm o'r enw'r Y Dydd Olaf yn Awst 2014, sydd wedi'i sylfaenu ar themâu ffug-wyddonol nofel o'r un enw a gyhoeddwyd yn 1976 gan Owain Owain.
Gwenno Saunders | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mai 1981 Caerdydd |
Label recordio | Recordiau Peski, Heavenly Recordings |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cerddor |
Arddull | electropop |
Prif ddylanwad | Y Dydd Olaf |
Tad | Tim Saunders |
Gwefan | http://www.gwenno.info/ |
Ganed Saunders yng Nghaerdydd, yn ferch i'r ieithydd a bardd Cernyweg nodweddiadol, Tim Saunders, a Lyn Mererid, sy'n aelod o'r côr sosialaidd Cymreig adnabyddus, Côr Cochion Caerdydd, ac yn gweithio fel cyfieithydd.
Bu Saunders yn mynychu Academi Dawns Wyddelig Seán Éireann-McMahon ers oedd hi'n bump oed, roedd Gwenno hefyd yn aelod o gast gynhyrchiadau Michael Flatley, Lord Of The Dance a Feet of Flames, tra roedd hi yn ei harddegau, a chwaraeodd y rhan arweiniol yng nghynyrchiad Las Vegas Lord Of The Dance. Yn 2001, cafodd ran yn y gyfres teledu Pobol y Cwm ar S4C, ac yn hwyrach cyflwynodd y rhaglen "Ydy Gwenno'n Gallu... ?".
Yn ystod y blynyddoedd cyn ymaelodi â'r Pipettes, bu Gwenno yn gantores bop unigol, yn canu y rhan fwyaf drwy gyfrwng y Gymraeg a Chernyweg, gan ryddhau dwy EP unigol, Môr Hud a ryddhawyd yn 2002, a Vodya yn 2004. Yn ddiweddarach, cynrychiolodd Saunders Gernyw yn y Gystadleuaeth Cân Eurovision Amgen yn 2003, ac enillodd Wobr Dewis y Bobl am ei pherfformiad o Vodya.
Ymaelododd Gwenno â'r Pipettes ym mis Ebrill 2005 wedi i'r aelod cychwynnol, Julia, adael. Mae hi'n nodweddiadol yn bennaf am ei llais arweiniol ar y sengl Pull Shapes a chytgan Your Kisses Are Wasted on Me. Fe gyhoeddoedd gwaith unigol ar ei gwefan MySpace. Rhyddhaodd albwm unigol fechain U & I ym mis Hydref 2007. Wedi ymadawiad Rosay a RiotBecki o'r Pipettes, ymunodd chwaef ieuengaf Saunders, Ani â'r band ym mis Ebrill 2008.
Yn Rhagfyr 2005 cyrhaeddodd ei albwm Y Dydd Olaf restr fer un o brig siartiau cerddoriaeth Prydain. Dyma'r tro cyntaf i albwm Cymraeg ei hiaith gyrraedd y safle hwn.
Fformat | Teitl | Blwyddyn |
---|---|---|
EP | Vodya | 2002 |
EP | Ymbelydredd | 2012 |
Albwm | Y Dydd Olaf | 2014 |
Albwm | Le kov | 2018 |
Albwm | Tresor | 2022 |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwenno Saunders, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.