Lleolir yr ynys Gran Canaria yng nghanol yr Ynysoedd Dedwydd rhwng Tenerife a Fuerteventura.
Trwy gydol y flwyddyn, mae'r tywydd yn gynnes gyda'r tymheredd cyfartalog yn amrywio o 18 °C ym mis Ionawr i 25 °C ym mis Awst. O ganlyniad, mae'r ynys yn hynod boblogaidd fel cyrchfan wyliau Haf a Gaeaf.
Math | ynys, cyrchfan i dwristiaid |
---|---|
Poblogaeth | 851,231 |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Yr Ynysoedd Dedwydd |
Lleoliad | Cefnfor yr Iwerydd |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 1,560 km² |
Uwch y môr | 1,956 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 27.9586°N 15.5925°W |
Gran Canaria yw'r drydedd ynys fwyaf o'r Ynysoedd Dedwydd (ar ôl Tenerife a Fuerteventura) ond er waethaf ei maint bychan, yn aml disgrifir yr ynys fel fersiwn fechan o gyfandir cyfan. Cyferbynna'r De Sych gyda fforestydd pinwydd y mynyddoedd mewndirol ac nid yw'n anghyffredin i weld eira ar gopaon y mynyddoedd tra bod twristiaid yn torheulo ar y traethau isod.
Ystyrir traethau Maspalomas ymysg rhai o draethau gorau'r ynys ac mae canolfan Playa del Ingles (traeth y Saeson) yn cynnig bywyd nos bywiog iawn. Mae gan Gran Canaria gyfleusterau golff gwych ac mae gan yr ynys draddodiad hir o chwaraeon.
Dyddia prif ddinas yr ynys, Las Palmas yn ôl i'r 15g. Mae ganddi boblogaeth o bron 400,000 sy'n golygu mai dyma'r ddinas fwyaf yn yr Ynysoedd Dedwydd. Mae gan y ddinas bensaernïaeth trefedigaethol, siopau a bariau cosmopolitaidd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gran Canaria, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.