Mae Maspalomas yn un o drefi twristaidd hynaf arfordir deheuol Gran Canaria yn yr Ynysoedd Dedwydd.
Mae Maspalomas yn rhan o ardal San Bartolomé de Tirajana. O bosib, tarddia'r enw o Rodrigo Mas de Palomar, milwr o Majorca a ymgartrefodd yno neu o Francisco Palomar, ffrind i Alonso Fernadez de Lugo a brynodd 87 caethwas o Güímar ac ymgartrefodd yn yr ardal.
Math | dinas |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | San Bartolomé de Tirajana |
Gwlad | Sbaen |
Uwch y môr | 0 metr |
Cyfesurynnau | 27.76057°N 15.586017°W |
Cod post | 35100 |
Mae Maspalomas yn enwog am dwristiaeth, y gwestai, traethau, twyni tywod, llety gwyliau a chyfleusterau eraill gan gynnwys bwytai, tafarndai, canolfannau siopa a busnesau eraill.
Ceir yno oleudy 68m o uchder, El Faro de Maspalomas ar y man mwyaf deheuol. Mae'r traeth yn 12 km o hyd ac mae'r twyni tywod wedi bod yn warchodfa natur ers 1897. I'r gogledd, arweinia'r traeth at ganolfan wyliau Playa del Inglés.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Maspalomas, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.