Giuseppe Conte

Cyfreithegwr, academydd a gwleidydd Eidalaidd yw Giuseppe Conte (Ynganiad Eidaleg: ; ganwyd 8 Awst 1964) a fu'n Brif Weinidog yr Eidal o 1 Mehefin 2018 i 13 Chwefror 2021, ac sydd yn arweinydd y Mudiad Pum Seren (M5S) ers Awst 2021.

Giuseppe Conte
Giuseppe Conte
GanwydGiuseppe Conte Edit this on Wikidata
8 Awst 1964 Edit this on Wikidata
Volturara Appula Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol La Sapienza
  • Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Iâl Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Giovanni Battista Ferri Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithegwr, gwleidydd, academydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog yr Eidal, Italian Minister of Education, Universities and Research Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Fflorens
  • Prifysgol Malta Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAnnibynnwr, Five Star Movement Edit this on Wikidata
PerthnasauEwa Aulin Edit this on Wikidata
Gwobr/augradd er anrhydedd Edit this on Wikidata
llofnod
Giuseppe Conte

Ganed yn Volturara Appula, Talaith Foggia, yn rhanbarth Puglia. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Rhufain Sapienza ac ym mhrifysgolion Yale a Duquesne (Pittsburgh) yn Unol Daleithiau America. Ers y 1990au mae wedi addysgu ym Mhrifysgol Roma Tre a LUMSA yn Rhufain, ym Mhrifysgol Malta, ac ym Mhrifysgol Sassari yn Sardinia. Mae'n dal swydd athro'r gyfraith breifat ym Mhrifysgol Fflorens ac yn LUISS (Rhufain).

Enwebwyd Conte yn Brif Weinidog yr Eidal ar 21 Mai 2018 i arwain llywodraeth glymblaid y M5S a Lega Nord. Wedi i'r ddwy blaid gytuno ar "gontract llywodraethol", ffurfiodd Conte ei gabinet cyntaf ar 1 Mehefin 2018.

Ar 20 Awst 2019, cynigodd Conte ymddiswyddo'n Brif Weinidog wedi i'r Lega wneud cais am bleidlais diffyg hyder yn y llywodraeth. Wedyn, cytunodd y M5S a'r Blaid Ddemocrataidd i ffurfio llywodraeth glymblaid newydd gyda Conte yn bennaeth arni. Fe'i ailbenodwyd yn Brif Weinidog yr Eidal wedi iddo ffurfio'i ail gabinet ar 5 Medi. Conte ydy'r gwleidydd cyntaf yn hanes Gweriniaeth yr Eidal i arwain ddwy llywodraeth yn yr un ddeddfwrfa, un gyda'r adain-dde ac un gyda'r adain-chwith.

Cafodd cabinet cyntaf Conte, a oedd yn cynnwys arweinwyr M5S, Luigi Di Maio, a Lega Nord, Matteo Salvini, ei ystyried yn y llywodraeth boblyddol gyntaf yn hanes modern Gorllewin Ewrop. Conte oedd y prif weinidog cyntaf yn yr Eidal heb brofiad o waith y llywodraeth neu weinyddiaeth gyhoeddus ers Silvio Berlusconi yn 1994, a'r prif weinidog cyntaf o dde'r Eidal ers Ciriaco De Mita yn 1989. Yn ei araith gyntaf yn y brifweinidogaeth, galwodd Conte ei hun yn "gyfreithiwr y bobl" (l'avvocato del popolo), a ddefnyddir hwnnw yn llysenw arno.

Yn Ionawr 2021, tynnodd y blaid ganolig Italia Viva ei chefnogaeth i lywodraeth Conte yn ôl, yn sgil beirniadaeth ynghylch y ffordd yr aeth i’r afael ag ymlediad y coronafeirws. Er i Conte ennill bleidleisiau o ymddiriedaeth yn nwy siambr y senedd, penderfynodd ymddiswyddo am iddo beidio â sicrhau mwyafrif llwyr yn Senedd y Weriniaeth. Methiant a fu'r drafodaethau i ffurfio trydydd cabinet dan arweiniad Conte, felly ar 13 Chwefror 2021 ildiodd y brifweinidogaeth i Mario Draghi, cyn-Lywydd Banc Canolog Ewrop, a lwyddodd i ffurfio llywodraeth o undod cenedlaethol.

Yn sgil ei ymddiswyddo, ymunodd Conte â'r M5S ar 28 Chwefror 2021. Daeth i gystadlu'r sefydlwr Beppe Grillo dros ddyfodol y blaid honno. O'r diwedd, cytunodd Conte a Grillo ar gyfaddawd, ac ar 5 Awst 2021 etholwyd Conte yn llywydd y M5S. Fel arweinydd, anghytunodd Conte yn fynych â Luigi Di Maio, un o'i gwleidyddion amlycaf y blaid, ac ymrannodd Di Maio a'i gefnogwyr oddi ar y M5S ym Mehefin 2022, gan ffurfio Insieme per il Futuro (IpF). Ar 13 Gorffennaf 2022, datganodd Conte y byddai'r M5S yn peidio â chefnogi'r llywodraeth o undod cenedlaethol, gan beri argyfwng gwleidyddol ac ymddiswyddiad Draghi. Yn yr etholiad disymwth a gynhaliwyd ar 25 Medi 2022, enillodd y M5S 15.4 y cant o'r bleidlais, ac etholwyd Conte i Siambr y Dirprwyon fel un o gynrychiolwyr Lombardia 1.

Cyfeiriadau

Tags:

19648 AwstAcademyddCyfreithegwrEidalwyrGwleidyddPrif Weinidog yr EidalWicipedia:IPA for Italian

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Adnabyddwr gwrthrychau digidolY DrenewyddRhif Cyfres Safonol RhyngwladolRhyfel IracArwel GruffyddBrasilDiwydiant llechi CymruAlban EilirSevillaLouise Élisabeth o FfraincFfynnonPornograffiMarilyn MonroeYr wyddor GymraegDafydd IwanSbaenCannesCocatŵ du cynffongochJuan Antonio VillacañasPantheonAsiaBlwyddyn naidMathrafalBuddug (Boudica)Georg HegelRhaeGwyStockholmOlaf SigtryggssonJapanegHen Wlad fy NhadauRheinallt ap GwyneddFflorida1695Dadansoddiad rhifiadolMaria Anna o SbaenClement AttleeCascading Style SheetsThe InvisibleTomos DafyddGwneud comando797The JerkDisturbiaMorwynBeach PartyBoerne, TexasMecsico Newydd7831855Gruffudd ab yr Ynad CochJac y doKrakówPeredur ap GwyneddYr Ymerodraeth AchaemenaiddSleim AmmarY Rhyfel Byd CyntafDe CoreaSali MaliThe Disappointments RoomGoogle ChromeHTMLPeiriant WaybackJennifer Jones (cyflwynydd)Doler yr Unol DaleithiauGwyddoniadur🡆 More