Yr ail fwyaf o'r ynysoedd yn y Môr Canoldir a rhanbarth yr Eidal yw Sardinia (Sardeg: Sardigna , Eidaleg: Sardegna ).
Mae ganddi statws rhanbarth ymreolaethol o fewn yr Eidal. Cagliari yw'r brifddinas.
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 1,628,384 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Parth Glas |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 23,949 km² |
Uwch y môr | 384 metr |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Cyfesurynnau | 40°N 9°E |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,639,362.
Mae gan yr ynys arwynebedd o 24,090 km²; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Saif ger arfordir gorllewinol yr Eidal, i'r de o Ynys Cors.
Rhennir y rhanbarth yn bum talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:
Tua 1500 CC, galwyd yr ynys yn Hyknusa (Lladin: "Ichnusa") gan y Mycenaeaid, efallai yn golygu ynys (nusa) yr Hyksos, oedd newydd gael eu gyrru o'r Aifft. Cafodd ei henw presennol o enw'r Shardana, un arall o'r bobloedd a ymosododd ar yr Aifft, ond a orchfygwyd gan Ramesses III tua 1180 CC).
Yn wleidyddol, mae'n rhan o'r Eidal gyda mesur o hunanlywodraeth. Cydnabyddir pobl Sardinia gan lywodraeth yr Eidal fel "popolo", sef pobl ar wahân. Mae'n un o ddau ranbarth o'r Eidal sydd a'r statws yma; y llall yw Veneto. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 1,655,677. Y brifddinas yw Cagliari. Mae 'Parth Glas' yn ardal ddemograffig a/neu ddaearyddol yn y byd lle mae llawer o bobl yn byw bywydau hir. Cofnodir Sardinia ymhlith yr uchaf (yn enwedig talaith Nuoro ac Ogliastra). Gwelwyd yma ardal o hirhoedledd uchel iawn mewn pentrefi mynyddig lle y mae'r dynion yn cyrraedd eu 100 ar gyfradd uchel iawn.
Mae gan yr ynys draddodiad cerddorol cryf, a cheir yno iaith gynhenid, Sardeg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sardinia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.