Llenor Saesneg a Sais oedd Geoffrey Chaucer (c.
1343 – 25 Hydref, 1400?). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur The Canterbury Tales ("Chwedlau Caergaint").
Geoffrey Chaucer | |
---|---|
Geoffrey Chaucer (llun dychmygol) | |
Ganwyd | c. 1343 Llundain |
Bu farw | c. 25 Hydref 1400 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | ieithydd, bardd, awdur geiriau, athronydd, gwleidydd, cyfieithydd, astroleg, ysgrifennwr |
Swydd | Member of the 1386 Parliament |
Adnabyddus am | The Canterbury Tales, The Book of the Duchess, The House of Fame, Troilus and Criseyde, The Legend of Good Women, The compleynt unto Pity, A Treatise on the Astrolabe, The compleynt of Venus, The Complaint of Mars, Chaucer's complaint unto his purse, Boece, Parlement of Foules, The Romaunt of the Rose, Anelida and Arcite |
Arddull | barddoniaeth |
Tad | John Chaucer |
Mam | Agnes Copton |
Priod | Philippa Roet |
Plant | Thomas Chaucer, Elizabeth Chaucer, Lewis Chaucer |
llofnod | |
Ganed ef yn Llundain tua 1343, ond does dim sicrwydd am y dyddiad hwnnw. Bu'n ŵr llys, diplomydd a gwas sifil. Pan ymosododd Edward III, brenin Lloegr, ar Ffrainc yn nechrau'r Rhyfel Can Mlynedd, aeth Chaucer i Ffrainc gyda Lionel o Antwerp, Dug Clarence. Yn 1360, cymerwyd ef yn garcharor yng ngwarchae Reims; cafodd ei ryddhau am dâl.
Nid oes llawer o fanylion ar gael am ei fywyd, ond ymddengys iddo deithio yn Ffrainc, Sbaen a Fflandrys, ac iddo efallai fynd ar bererindod i Santiago de Compostela. Tua 1366, priododd Philippa (de) Roet. Ymwelodd a Genova a Fflorens yn 1373, a chredir i farddoniaeth yr Eidal ddylanwadu arno.
Yn 1374 cafodd swydd Comptroller porthladd Llundain, swydd a ddaliodd am ddeuddeng mlynedd. Credir iddo ysgrifennu'r rhan fwyaf o'i weithiau yn y cyfnod yma, gan ddechrau gweithio ar The Canterbury Tales yn y 1380au cynnar. Daeth yn Aelod Seneddol dros Swydd Caint yn 1386.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Geoffrey Chaucer, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.