Casgliad o straeon a ysgrifennwyd gan Geoffrey Chaucer yn y 14g yw The Canterbury Tales (Chwedlau Caergaint).
Adroddir y straeon gan griw o bererinwyr ar bererindod o Southwark i Gaergaint er mwyn ymweld â bedd Sant Thomas Becket yn Eglwys Gadeiriol Caergaint. Mae'r Canterbury Tales wedi'u hysgrifennu mewn Saesneg Canol. Er yr ystyrir y chwedlau hyn fel ei weithiau gorau, cred rhai fod strwythur ei weithiau yn efelychu y Decamerone gan Boccaccio, a dywedir fod Chaucer wedi ei ddarllen ar ymweliad blaenorol â'r Eidal.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article The Canterbury Tales, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.