Plwyf ac aneddiad bychan yn ne Cymru yw Eglwys Ilan (weithiau Eglwys-Ilan neu Eglwysilan).
Mae'n gorwedd rhwng Pontypridd ac Ystrad Mynach ac yn cael ei rannu rhwng Rhondda Cynon Taf a Chaerffili. Sancteiddiwyd yr eglwys i gofio am Sant Ilan.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.592745°N 3.290508°W |
Yn hanesyddol roedd y plwyf yn rhan o gantref Senghennydd yn yr Oesoedd Canol. Yma bu cartref Llywelyn Bren. Yn nes ymlaen roedd yn gorwedd yn yr hen Sir Forgannwg. Enwir y plwyf a'r hen eglwys ar ôl Sant Ilan. Dywedir bod ysbrydion wedi aflonyddu ar godwyr yr eglwys gyntaf a bu rhaid iddynt ddewis safle arall am fod y celfi a'r cerrig yn cael eu symud dros nos.
Mae'r plwyf yn cynnwys rhan o Bontypridd, pentref Senghennydd, Eglwys Ilan ei hun (dyrnaid o dai) a'r Groeswen. Mae tua 8,000 o bobl yn byw yn yr ardal heddiw.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eglwys Ilan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.