Arglwydd Senghennydd a Meisgyn ym Morgannwg oedd Llywelyn ap Gruffudd neu Llywelyn Bren (m.
1318). Roedd yn orwyr i Ifor Bach (Ifor ap Meurig ap Cadifor). Roedd yn arglwydd cyfrifol a rhyfelwr dewr a gododd mewn gwrthryfel yn erbyn gormes y goresgynwyr yn ne-ddwyrain Cymru.
Llywelyn Bren | |
---|---|
Ganwyd | 1267 Senghennydd |
Bu farw | 1318 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwyldroadwr |
Tad | Gruffudd ap Rhys |
Plant | Nn ferch Llywelyn Bren |
Roedd Llywelyn wedi bod ar delerau da gyda'r arglwydd Normanaidd lleol Gilbert de Clare ond pan fu farw Gilbert cymerodd Pain de Turberville, arglwydd Coety, drosodd a dechreuodd ymddwyn yn drahaus. Cwynodd Llywelyn i Edward II, brenin Lloegr, ond heb gael boddlonrwydd gan y brenin diystyriol hwnnw. Aeth pethau o ddrwg i waeth a chododd Llywelyn a'r Cymry lleol mewn gwrthryfel ym mlaenau Morgannwg. Ni pharodd y gwrthryfel am hir gan fod brenin Lloegr a rhai o arglwyddi'r Mers yn anfon nifer o filwyr i Forgannwg i'w gorchfygu.
Cymerwyd Llywelyn Bren yn garcharor i Dŵr Llundain lle cafodd ei ddeddfrydu i farwolaeth ac oddi yno cafodd ei ddwyn i Gaerdydd a'i ddienyddio yn y modd erchyll arferol gan Goron Lloegr yn achos "teyrnfradwyr".
Roedd Llywelyn yn ŵr diwylliedig a deallus. Roedd yn hoff iawn o lenyddiaeth Gymraeg a Ffrangeg, yn perchen llawysgrifau yn y ddwy iaith honno ac yn noddi'r beirdd. Yn ôl traddodiad roedd ganddo blasdy bychan yn Eglwys Ilan, yng nghantref Senghennydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llywelyn Bren, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.