Mae'r Gornchwiglen (Vanellus vanellus) yn aelod o deulu'r rhydyddion.
Cornchwiglen | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Charadridae |
Genws: | Vanellus |
Rhywogaeth: | V. vanellus |
Enw deuenwol | |
Vanellus vanellus (Linnaeus, 1758) |
Mae'n aderyn cyffredin trwy Ewrop a gogledd Asia.
Mae'r Gornchwiglen yn aderyn mudol yn y rhannau lle ceir gaeafau oer ac yn symud i'r de cyn belled a gogledd Affrica a gogledd India. Yng ngorllewin Ewrop nid yw'n mudo.
Gellir adnabod y Gornchwiglen yn hawdd. Mae'n aderyn du a gwyn, ond gyda lliw gwyrdd ar y cefn, ac mae plu hir ar y pen. Mae rhwng 28 a 31 cm o hyd a 67–72 cm ar draws yr adenydd. Yn y tymor nythu gellir clywed yr adar yn galw yn ddi-baid.
Mae'n nythu ar gaeau a lle bynnag y ceir tir agored gyda glaswellt heb fod yn rhy hir. gan ddodwy 3 neu 4 wy ar y llawr. Mae'r rhieni yn amddiffyn y nyth ac yn ddiweddarach y cywion rhag unrhyw aderyn neu anifail a allai fod yn berygl iddynt. Mewn llawer o wledydd, yn cynnwys Cymru, mae'r nifer o Gornchwiglod sy'n nythu wedi gostwng oherwydd fod dulliau ffermio dwys yn golygu fod llai o leoedd addas iddynt nythu. Yn y gaeaf mae niferoedd sylweddol o adar o wledydd eraill yn symud i mewn, ac weithiau gellir gweld heidiau o filoedd ar rannau mwdlyd o lan y môr neu ar gaeau. Eu prif fwyd yw pryfed o wahanol fathau.
Cofnod Olwen Evans (Môn) yn 2011:
'Criglan' (cniglan ar lafar i mi), Llanfaethlu, Ynys Môn. Byddai nhad yn hel wya cniglod yng nghaea Bodfardden Ddu, Llanfaethlu yn y 50au - rhai efo sbeciau brown arnynt os cofiaf yn iawn. Ym mhig ei gap y byddai fy nhad (o Niwbwrch)yn cario wyau cniglod. Mi fydda fo’n eu byta i de pnawn - 2/3 ar yr un pryd oherwydd eu bod mor fach. Ond gan nad wyf yn hoffi na byta wyau alla’i ddim tystio i’w blas" Menna Lloyd Williams
Chwiglan, chwyglod, cniglod. Nhaid yn hel wya chwiglod, a’i cario ym mhig 'i gap. Byth ond yn cymryd ond un wy, a hynny os oedd yn nyth â thri wy. Gwawr lâs ar y gwynwy. Wedi ‘i berwi mewn salad. Blasus. John Pierce-Jones
Clywais fod ciperiaid y stada mawr, Bodorgan, Plasnewydd ayb yn gorfod mynd i hela wya chwiglod a chymryd bob un i frecwast i'w meistri. JP-J
Chwiglan - Niwbwrch, Mon - yn anffodus cofio mynd i hel wya chwiglod yn y Tywyn a balch o gael hyd iddynt ac wrth gwrs ei bwyta ar ôl mynd adra. Ddim yn meddwl am a chwiglan druan yn colli ei wya. Faswn I ddim yn gwneud y fath beth rwan. Dot Bailey
Hanesyn TG Walker am ‘hyfdra’r‘ gornchwiglen:
Yn ôl chwedl, roedd y gornchwiglen yn arfer nythu yn y coed fel adar eraill... a'r dylluan (twyll-Lleu, o chwedl Blodeuwedd) yn nythu ar y llawr. Un diwrnod perswadiwyd y gornchwiglen gan y dylluan i gyfnewid eu llefydd nythu, ac felly y bu. Ond yn fuan iawn fe welodd y gornchwiglen ei bod wedi gwneud camgymeriad mawr... ac ers hynny mae hi yn gweiddi ar y dylluan i newid nôl - 'NEWID, NEWID' yw ei chri.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cornchwiglen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.