Math o ddeunydd sydd wedi'i wehyddu neu ei lawbannu o wlân yw brethyn, er y gall hefyd fod wedi'i wneud o gotwm neu ddeunydd arall.
Byddai'n cael ei gynhyrchu fel rhan o'r diwydiant gwlân - un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru yn ystod y 18g - ac roedd yn cael ei ddefnyddio at nifer fawr o ddibenion, yn cynnwys dillad, blancedi, addurniadau, a glanhau. Gelwid blanced a wnaed o frethyn yn 'garthen'. Mae gwisgoedd traddodiadol Cymreig hefyd fel arfer wedi'u gwneud o frethyn.
Math | deunydd, arteffact, nwydd, endid artiffisial, cynnyrch, arteffact archaeolegol, gwisg werin |
---|---|
Deunydd | fiber |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r term 'brethyn cartref' yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun diwylliannol i gyfeirio at y lleol a'r gwerinol, a hynny yn gadarnhaol.
Mae'r defnydd cynharaf o'r gair 'brethyn', wedi'i sillafu 'uredhyn', yn dod o'r 13g.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brethyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.