Berwbwynt

Y radd o dymheredd ble mae elfen, hylif fel arfer, yn berwi yw berwbwynt.

Yng ngeiriau'r gwyddonydd: y tymheredd y mae gwasgedd anwedd yn hafal i wasgedd yr amgylchedd sydd o amgylch yr hylif.

Berwbwynt
Berwbwynt
Enghraifft o'r canlynolthermal property Edit this on Wikidata
Mathtymheredd Edit this on Wikidata

Mae gan pob hylif sydd wedi'i amgylch gan wactod ferwbwynt is na pha fo dan wasgedd atmosfferig. Y cryfaf yw'r gwasgedd ar yr hylif, yr uchaf ydy'r berwbwynt, hynny yw mae'r berwbwynt yn newid pan fo'r gwasgedd sydd arno yn newid.

Berwbwynt dŵr

Oherwydd gwasgedd isel yr awyr ar ben Mynydd Everest mae dŵr yn berwi ar ddim ond 70 gradd canradd. Dim gobaith am baned rhesymol o de yno, felly. Cyfeiria’r 100 gradd at wasgedd safonol awyr ar lefel y môr. Yn Hafan Eryri, caffi newydd yr Wyddfa, bydd tegell yn berwi ar tua 97 gradd. Ond beth os plymiwch i ddyfnderoedd y môr? Yno mae’r gwasgedd yn cynyddu’n sylweddol - tuag un atmosffer ar gyfer pob 10 metr. Mi fyddai paned wedi’i baratoi (a’i yfed) ar waelod pwll nofio Bangor yn mesur dros 110 gradd braf ! Dros y tair blynedd diwethaf mae tîm o Brifysgol Bremen wedi bod yn mesur tymheredd dŵr yn codi o simneiau folcanig 3 cilomedr o dan wyneb yr Iwerydd. Yno daethant o hyd i’r dŵr poethaf a fesurwyd erioed - 464 gradd canradd. Ond ar wasgedd o 300 atmosffer mae pethau rhyfedd yn digwydd i ddŵr. Nid yw’n berwi, fel y cyfryw, ond yn gweddnewid yn ddi-dor o hylif i anwedd - nid oes “swigod”. Gelwir hwn yn hylif uwch-gritigol. Dyma’r tro cyntaf i’w gweld ar y ddaear y tu allan i’r labordy. Bydd dŵr uwch-gritigol yn ymdoddi mwynau a metelau - megis aur a haearn - o’r creigiau yn effeithiol iawn, a thybir mai dyma darddiad llawer o halwynau’r môr. Wedi dod o hyd i, ac astudio’r, simneiau hyn bydd modd dysgu llawer am y prosesau sy’n creu’r moroedd a chynnal y bywyd sydd ynddynt.

Cyfeiriadau

Tags:

BerwiElfenGwasgeddHylifTymheredd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Ieithoedd BerberChwarel y RhosyddMahanaFfrwythFlorence Helen WoolwardMeilir GwyneddRocynOcsitaniaBacteriaCyfnodolyn academaiddMargaret WilliamsDriggLos AngelesKathleen Mary FerrierL'état SauvageRhywedd anneuaiddAngel HeartCelyn JonesEmyr DanielWsbecistanOriel Gelf GenedlaetholLlan-non, CeredigionWikipediaAwstraliaAnwythiant electromagnetigMetro MoscfaBanc LloegrPenarlâgEilian1980Iddew-SbaenegGwyddoniadurRaymond BurrEconomi AbertaweDerwyddCoron yr Eisteddfod Genedlaethol9 EbrillJac a Wil (deuawd)BolifiaIKEAGhana Must GoTamilegGwenan EdwardsSant ap CeredigBlaenafonDavid Rees (mathemategydd)Mynyddoedd AltaiBrenhinllin QinYr AlmaenGwenno HywynOmanEmojiPidynCynanJava (iaith rhaglennu)Cyngres yr Undebau LlafurPiano Lesson24 EbrillThelemaCalsugnoPalesteiniaidCaethwasiaethCyfalafiaethMartha Walter🡆 More