Gwleidydd o Bacistan oedd Benazir Bhutto (21 Mehefin 1953 – 27 Rhagfyr 2007).
Bhutto oedd y ddynes gyntaf erioed i gael ei hethol i arwain gwlad Fwslimaidd yn y cyfnod ôl-drefedigaethol.
Benazir Bhutto | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mehefin 1953 Karachi |
Bu farw | 27 Rhagfyr 2007 o ymosodiad terfysgol Rawalpindi |
Dinasyddiaeth | Pacistan |
Addysg | Doctor of Sciences |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Prif Weinidog Pacistan, Arweinydd yr Wrthblaid, Prif Weinidog Pacistan, Arweinydd yr Wrthblaid, Finance Minister of Pakistan, Defence Minister of Pakistan |
Plaid Wleidyddol | Plaid Pobl Pacistan |
Tad | Zulfiqar Ali Bhutto |
Mam | Nusrat Bhutto |
Priod | Asif Ali Zardari |
Plant | Bilawal Bhutto Zardari, Bakhtawar Zardari Bhutto, Aseefa Bhutto Zardari |
Llinach | Bhutto family |
Gwobr/au | Gwobr Bruno Kreisky, Gwobr y Cenhedloedd Unedig am waith gyda Iawnderau Dynol |
Gwefan | https://benazirbhutto.com |
llofnod | |
Ganwyd Bhutto yn Karachi, yn blentyn hynaf Zulfikar Ali Bhutto, cyn arweinydd Pacistan, o dalaith Sindh, a Begum Nusrat Bhutto, merch Bacistanaidd o dras Iranaidd a Chyrdaidd. Ei thaid ar ochr ei thad oedd Syr Shah Nawaz Bhutto a ddaeth i Larkana Sindh cyn ymraniad isgyfandir India o'i dref enedigol Bhatto Kalan (yn nhalaith Indiaidd Haryana heddiw).
Cafodd ei hethol yn Brif Weinidog Pacistan ddwywaith. Y tro cyntaf oedd ym 1988 ond cafodd ei gorfodi i adael ei swydd ar ôl 20 mis dan orchymyn yr arlywydd ar y pryd Ghulam Ishaq Khan ar ôl cael ei chyhuddo o fod yn llwgr. Ym 1993 cafodd Bhutto ei hethol yn Brif Weinidog am yr ail dro, ond cafodd ei symud o'r swydd ar yr un cyhuddiadau unwaith yn rhagor, ym 1996, gan yr Arlywydd Farooq Leghari.
Aeth Bhutto yn alltud gwirfoddol yn Dubai ym 1998, lle arhosodd nes iddi ddychwelyd i Bacistan ar 19 Hydref, 2007, ar ôl dod i gytundeb dadleuol gyda'r Cadfridog Musharraf a roddwyd iddi amnest a dileu pob cyhuddiad o lygredd.
Cafodd Bhutto ei bradlofruddio ar 27 Rhagfyr, 2007, mewn ymosodiad terfysgol ar ôl rali gan ei phlaid, Plaid Pobl Pacistan, yn Rawalpindi. Cafodd ei saethu gan yr ymosodwr a chwythodd ei hun i fyny wedyn gan ladd tuag 20 o bobl eraill. Bu Benazir farw yn yr ysbyty am 1320 UTC.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Benazir Bhutto, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.