Karachi ( ynganiad ) yw'r ddinas fwyaf ym Mhacistan ac un o'r deg o ddinasoedd mwyaf poblog, gyda dros 14,910,352 (2017) o bobl yn byw ynddi.
Mae wedi'i lleoli ar Fôr Arabia fymryn i'r gogledd o'r man lle mae Afon Indus yn rhedeg i'r môr ar ddiwedd ei thaith hir o fynyddoedd y Karakoram. Karachi yw prif borthladd Pacistan. Karachi yw dinas fwyaf cosmopolitaidd Pacistan, yn amrywiol o ran iaith, yn ethnig ac yn grefyddol, yn ogystal â bod yn un o ddinasoedd mwyaf seciwlar a rhyddfrydol Pacistan. Y ddinas yw prif ganolfan ddiwydiannol ac ariannol Pacistan, gydag amcangyfrif o CMC o $ 164 biliwn (PPP) yn 2019.
Math | metropolis, endid tiriogaethol gweinyddol, tref/dinas, dinas fawr, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, prifddinas y dalaith |
---|---|
Prifddinas | Gulshan Town |
Poblogaeth | 14,910,352 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Murtaza Wahab |
Cylchfa amser | UTC+05:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wrdw |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sindh |
Gwlad | Pacistan |
Arwynebedd | 3,527 km² |
Uwch y môr | 8 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 24.86°N 67.01°E |
Cod post | 74000–75900 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Karachi Metropolitan Corporation |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Karachi |
Pennaeth y Llywodraeth | Murtaza Wahab |
Yn ddinas fodern, datblygodd yn gyflym fel porthladd yn ystod y 19g. Yn 1947 daeth yn brifddinas y Bacistan newydd a llifodd nifer fawr o ffoaduriaid i mewn i ddinas oedd eisoes yn llawn i'r ymylon. Gwellhaodd y sefyllfa i raddau pan symudwyd y brifddinas i Islamabad yn 1959 a chychwynwyd ar raglen o adeiladu bwrdeistrefi o gwmpas y ddinas yn y 1960au.
Galwyd hi'n "Ddinas y Goleuadau" yn y 1960au a'r 1970au oherwydd ei bywyd nos bywiog. Yn yr 1980au, fodd bynnag, roedd Karachi;n llawn o wrthdaro ethnig, sectyddol a gwleidyddol, gyda dyfodiad arfau o bob lliw a maint, yn ystod y Rhyfel Sofietaidd-Afghanistan. Erbyn y 2020au roedd Karachi wedi dod yn gartref i fwy na dwy filiwn o fewnfudwyr Bangladeshaidd, miliwn o ffoaduriaid o Affganistan, a hyd at 400,000 o Rohingyas o Myanmar.
Karachi yw prif borthladd filwrol y wlad. Mae'r rhan fwyaf o gynnyrch taleithiau amaethyddol Sind a Punjab yn pasio drwy'r borth. Ymhlith y prif ddiwylliannau ceir: brethyn, cemegau, a serameg.
Un o'r ychydig atyniadau pensaernïol amlwg yn y ddinas yw Mazar-e-Quaid, beddrod Jinnah, sefydlwr Pacistan.
Yn ôl pob sôn, sefydlwyd Karachi modern ym 1729 fel anheddiad Kolachi-jo-Goth. Dywedir i'r anheddiad newydd gael ei enwi er anrhydedd i Mai Kolachi, y dywedir bod ei mab wedi lladd crocodeil a oedd wedi bwyta'i frawd hynaf gael eu lladd ganddo eisoes. Defnyddiwyd yr enw Karachee, fersiwn fyrrach a llygredig yr enw gwreiddiol Kolachi-jo-Goth, am y tro cyntaf mewn adroddiad o'r Iseldiroedd a sgwennwyd yn 1742 am longddrylliad ger yr fan.
Mae'r rhanbarth o amgylch Karachi wedi bod yn safle i bobl fyw ynddo ers milenia. Cloddiwyd safleoedd Hen Oes y Cerrig (Paleolithig) a Oes Ganol y Cerrig (Mesolithig Uchaf) ym Mryniau Mulri ar hyd cyrion gogleddol Karachi. Credir mai helwyr-gasglwyr oedd y trigolion cynharaf hyn, gydag offer fflint hynafol wedi'u darganfod mewn sawl safle.
Credir bod rhanbarth eang Karachi yn hysbys i'r hen Roegiaid, ac efallai mai dyma'r safle a elwyd yn "Barbarikon", porthladd hynafol a oedd wedi'i leoli yng ngheg gyfagos Afon Indus. Cyfeirir at Karachi hefyd fel "Ramya" mewn testunau Groegaidd hynafol.
Efallai bod safle hynafol Krokola, harbwr naturiol i'r gorllewin o'r Indus lle hwyliodd Alecsander Fawr ei longau ar gyfer Achaemenid Assyria, wedi'i leoli ger ceg Afon Malir Karachi, er bod rhai'n credu ei fod wedi'i leoli ger Gizri. Nid oes harbwr naturiol arall yn bodoli ger ceg yr Indus a allai ddarparu ar gyfer cymaint o longau.
Yn 711 CE, fe orchfygodd Muhammad bin Qasim Ddyffryn Sindh ac Indus a phorthladd Debal, ac oddi yno y lawnsiodd ei luoedd ymhellach i Ddyffryn Indus yn 712. Mae rhai wedi uniaethu’r porthladd â Karachi, er bod rhai yn dadlau bod y lleoliad rywle rhwng Karachi a dinas gyfagos Thatta.
O dan Mirza Ghazi Beg, gweinyddwr Mughal Sindh, anogwyd datblygiad arfordir Sindh a Delta Afon Indus. O dan ei reolaeth ef, roedd amddiffynfeydd y rhanbarth yn effeithiol yn erbyn cyrchoedd Portiwgalaidd a geisiant ymosod ar Sindh. Yn 1553–54, soniodd y llyngesydd Otomanaidd Seydi Ali Reis, am borthladd bach ar hyd arfordir Sindh o’r enw Kaurashi a allai fod yn Karachi. Adeiladwyd beddrodau Chaukhandi ym maestrefi modern Karachi tua'r adeg hon rhwng y 15g a'r 18g.
Amcangyfrifir bod poblogaeth Karachi ar y pryd rhwng 8,000 a 14,000, ac roedd wedi'i gyfyngu i'r ddinas gaerog ym Mithadar, gyda maestrefi yn yr hyn sydd bellach yn Chwarter Serai.
Sefydlodd milwyr Prydain, a lusenwyd yn "Company Bahadur" wersyll i'r dwyrain o'r ddinas wedi iddynt ei goresgyn, a ddaeth yn rhagflaenydd y Treganna (neu Cantonment) Karachi modern. Datblygodd y Prydeinwyr Dreganna Karachi ymhellach fel garsiwn milwrol i gynorthwyo ymdrech rhyfel Prydain yn y Rhyfel Eingl-Afghanistan Cyntaf.
Symudwyd prifddinas Sindh o Hyderabad i Karachi ym 1840 hyd 1843, pan atodwyd Karachi i’r Ymerodraeth Brydeinig ar ôl i’r Uwchfrigadydd Charles James Napier gipio gweddill Sindh yn dilyn ei fuddugoliaeth yn erbyn y Talpurs ym Mrwydr Miani. Yn dilyn uniad 1843, unwyd y dalaith gyfan o fewn "Arlywyddiaeth Bombay" am y 93 mlynedd nesaf. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ym 1846, dioddefodd Karachi achos mawr o golera, a arweiniodd at sefydlu Bwrdd Cholera Karachi (rhagflaenydd llywodraeth ddinesig y ddinas).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Karachi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.