Yn llenyddiaeth Gymraeg, bardd a gafodd ychydig neu ddim addysg ffurfiol ac sy'n canmol ei fro a'i gymdeithas ei hun yn ei waith, fel rheol, a olygir wrth y term bardd gwlad.
Fel rheol mae'n feistr ar y gynghanedd a'r mesurau caeth traddodiadol.
Daeth y bardd gwlad i'r amlwg gyda thwf y wasg ar ddechrau'r 18g. Mae enghreifftiau o feirdd gwlad y ganrif honno yn cynnwys Jonathan Huws o Langollen, Elis y Cowper, Dafydd Jones o Drefriw, Huw Jones o Langwm a Siôn Cadwaladr o'r Bala. Ceir nifer o gerddi gan feirdd gwlad yn yr almanacau Cymraeg a chyfrolau poblogaidd eraill y cyfnod a pharhaodd y traddodiad felly i'r 19g. Gellid ystyried nifer o feirdd y ganrif honno yn feirdd gwlad, e.e. Trebor Mai o Lanrwst, un o englynwyr gorau'r 19eg ganrif. Gwelir eu gwaith yn aml ar gerrig beddau yn ogystal.
Heddiw mae traddodiad y bardd gwlad yn parhau yng ngwaith y beirdd lleol sy'n cyfrannu penillion i'r papurau bro neu'n cystadlu â'i gilydd mewn eisteddfodau a thalwrnau lleol.
Roedd y bardd adnabyddus Dic Jones yn dal i ystyried ei hun yn fardd gwlad er gwaethaf ei amlygrwydd cenedlaethol ac mae nifer fawr o'i gerddi yn adlewyrchu rôl cymdeithasol y bardd gwlad yn ei gymdeithas. Enghraifft arall diweddar oedd "Bois y Cilie".
Ceir gwaith nifer o feirdd gwlad ail hanner yr 20g yn y gyfres o flodeugerddi Beirdd Bro.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bardd gwlad, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.