Aenid

Cerdd Ladin gan y bardd Rhufeinig Fyrsil yw'r Aeneid (Lladin: Aeneis, daw y ffurf Aenid o'r Groeg).

Ysgrifennwyd y gerdd rheng 29 CC ac 19 CC. Mae'n adrodd hanes Aeneas, mab i'r tywysog Anchises a'r dduwies Aphrodite (Gwener); mae Anchises yn gefnder i Priam, brenin Caerdroea. Yn yr Iliad, ef yw arweinydd y Dardaniaid sy'n ymladd ar ochr Caerdroea yn erbyn y Groegiaid, ac mae'n un o gynghreiriaid agosaf Hector. Pan syrth dinas Caerdroes ar ddiwedd Rhyfel Caerdroea, llwydda Aeneas i ddianc o'r ddinas.

Aenid
Aeneas yn ffoi o Gaerdroa, Federico Barocci, 1598.

Dechreua'r Aenid gydag Aeneas yn hwylio tua'r Eidal i chwilio am gartref newydd. Gyrr y dduwies Juno stormydd, a gyrrir ef i Ogledd Affrica a dinas Carthago, lle mae'r frenhines Dido yn syrthio mewn cariad ag Aeneas. Er hynny, mae Aeneas yn mynnu gadael, ac yn teithio i'r Eidal. Yn ail hanner y gerdd, ceir hanes ei frwydro yn erbyn y Lladiniaid. Mae'n ymsefydlu yn Latium, lle mae'n priodi Lavinia, merch y brenin Latinus, ac yn sefydlu dinas Lavinium.

Yn ddiweddarach, dywedir i'w fab, Ascanius, yn sefydlu dinas Alba Longa, a gyfrannodd at sefydlu dinas Rhufain, felly mae'r Aenid yn epig genedlaethol Rhufain. Ystyriai brenhinoedd Teyrnas Rhufain eu hunain fel disgynyddion Aeneas, ac roedd teulu yr Iulii, yn eu plith Iŵl Cesar, yn ystyried eu hunain yn ddisgynyddion Aeneas, a felly'n ddisgynyddion y dduwies Gwener. Ysgrifennwyd y gerdd dan yr ymerawdwr Augustus, nai a mab mabwysiedig Iŵl Cesar.

Dechreua'r gerdd gyda'r geiriau enwog Arma virumque cano..., ("Canaf am arfau ac am ddyn ...").

Daeth yr Aenid yn garreg glo mewn gwersi Lladin, erbyn diwedd yr 2g OC, ac roedd dygu'r gwaith ar y co, yn hanfodol.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

19 CC29 CCAeneasAphroditeCaerdroeaFyrsilGroeg (iaith)HectorIliadLladinPriamRhyfel CaerdroeaYmerodraeth Rhufain

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Tîm pêl-droed cenedlaethol WrwgwáiByddin Rhyddid CymruNew Haven, VermontGwainOedraniaethHitchcock County, NebraskaElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigCellbilenSaline County, ArkansasRhyw geneuolMaddeuebCyffesafDinasEmily TuckerWorcester, VermontLloegrRichard Bulkeley (bu farw 1573)The Bad SeedY rhyngrwydByseddu (rhyw)VespasianTsieciaEwropFideo ar alwElton JohnDydd Iau Cablyd1192Internet Movie DatabaseYork County, NebraskaCarroll County, OhioPickaway County, OhioJohn Eldon BankesDe-ddwyrain AsiaY Bloc DwyreiniolHoward County, ArkansasCanfyddiadClermont County, Ohio1992ArchimedesSaesnegAshland County, OhioKeanu ReevesFontanarrosa, Lo Que Se Dice Un ÍdoloConsertinaFfraincOrganau rhywEnllibThe Adventures of Quentin DurwardMartin ScorseseRasel OckhamSiot dwadMarion County, ArkansasLlwgrwobrwyaethSystem Ryngwladol o UnedauY Cyngor PrydeinigMamaliaidWashington (talaith)Dinas MecsicoElinor OstromBwdhaethSophie Gengembre AndersonTyrcestanClefyd AlzheimerWolcott, VermontAnna Brownell JamesonRhyfel yr Undeb Sofietaidd yn AffganistanWilmington, DelawareMonett, MissouriMamalHappiness RunsPeiriant WaybackSiarl III, brenin y Deyrnas UnedigBoeremuziekHuron County, Ohio🡆 More