Rhyfel a ddaeth yn rhan o fytholeg Groeg yr Henfyd oedd Rhyfel Caerdroea.
Dywedir i fyddin o Roegwyr dan arweiniad Agamemnon ymosod ar ddinas Caerdroea, yng ngogledd-orllewin Anatolia. Wedi deng mlynedd o ymladd, llwyddodd y Groegwyr i gipio'r ddinas trwy ystyw Ceffyl Pren Caerdroea. Y ffynhonnell fwyaf adnabyddus ar gyfer yr hanes yw'r Iliad gan Homeros, ond dim ond hanes un rhan o'r rhyfel a geir yma.
Nid yw haneswyr yn cytuno a oes sail hanesyddol i'r straeon am Ryfel Caerdroea. Os oedd yn ddigwyddiad hanesyddol, credir y buasai wedi digwydd oddeutu 1180 CC.
Dechreua'r stori gyda phriodas Peleus a Thetis. Daw'r duwiau a'r duwiesau i gyd i'r wledd briodas, ond ni wahoddwyd Eris, duwies anghydfod. Fel dial, mae Eris yn cymryd afal aur, yn ysgrifennu "i'r harddaf" (τηι καλλιστηι) arno, a'i daflu i blith y gwahoddedigion. Canlyniad hyn yw ffrae rhwng y duwiesau Hera, Athena ac Aphrodite pwy ddylai gael yr afal. Gofynnir i Paris, tywysog o Gaerdroea, farnu pa un o'r tair yw'r harddaf. Mae pob un o'r tair duwies yn addo gwobr i Paris os dyfarna'r afal iddi hi. Cynnig Aphrodite yw y caiff Paris y wraig brydferthaf yn y byd, Elen (Helen), gwraig Menelaos brenin Sparta, yn gariad. Dyfarna Paris yr afal i Aphrodite.
Mae Paris yn cipio Helen, a'i dwyn i Gaerdroea, lle mae ei dad, Priam, yn frenin. Ymateb Menelaos yw gofyn cymorth ei frawd Agamemnon, brenin mwyaf nerthol y Groegiaid. Gelwir arwyr y Groegiaid at ei gilydd, yn eu plith Achilles a'i gyfaill Patroclus, yr hynafgwr Nestor, Aiax, Odysseus, Calchas a Diomedes, ac wedi ymgynull ar ynys Aulis, maent yn hwylio am Gaerdroea.
Y mwyaf nerthol o arwyr y Groegiaid yw Achilles, sy'n fab i'r dduwies Thetis. Pan oedd yn faban, roedd Thetis wedi ei ymdrochi yn afon Styx fel na ellid ei niweidio gan unrhyw arf; heblaw ar ei sawdl, lle roedd hi'n gafael ynddo. Lleddir Patroclus, cyfaill Achilles, gan Hector, mab hynaf Priam a phrif arwr Caerdroea. Lleddir Hector ei hun gan Achilles, yma saethir Achilles ei hun yn ei sawdl gan Paris, ac mae'n marw o ganlyniad i'r anaf.
Wedi deng mlynedd o ymladd, mae Odysseus yn meddwl am gynllun i gipio'r ddinas. Mae'r Groegiaid yn adeiladu ceffyl pren anferth, ac yn cuddio milwyr o'i fewn. Wedyn mae'r Groegiaid i bob golwg yn ymadael. Llusgir y ceffyl i mewn i'r ddinas gan drigolion Caerdroea, sy'n dathlu eu buddugoliaeth, ond yn y nos mae'r Groegiaid yn dod allan o'r ceffyl a syrth y ddinas.
Lladdwyd Priam a nifer o'i deulu, a gwnaed eraill yn gaethweision. Arbedwyd Anchises, a chariwyd ef allan o'r ddinas ar gefn ei fab, Aeneas.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhyfel Caerdroea, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.