Athena

Athena, neu Pallas Athena (Lladin: Minerva), oedd duwies rhyfel a doethineb ym mytholeg y Groegiaid a nawdd-dduwies dinas Athen.

Athena
Cerflun o Athena

Cafodd ei geni o ben Zeus yn llawn arfog ac yn dwyn gwaywffon javelin yn ei llaw. Hi oedd hoff blentyn Zeus.

Yn ystod Rhyfel Caerdroea rhoddai Athena gymorth i'r Groegiaid yn erbyn gwŷr Caerdroea. Rhoddodd gymorth yn ogystal i'r arwr Heracles yn ei lafuroedd a thywysodd Perseus i wlad y Gorgoniaid. Diolch i nawdd ac amddiffyn y dduwies y cyrhaeddodd Odysseus ei gartref yn ddiogel, yn ôl Odysseia Homeros.

Roedd Athena yn dduwies wyryfol ac yn ddiwyd iawn. Roedd hi'n medru bod yn genfigennus, fel pan gollodd ornest yn erbyn Arachne o Lydia. Yn amser heddwch byddai'n troi ei nawdd at y celfyddydau a diwydiant, yn arbennig gwaith domestig.

Enwir dinas Athen ar ei hôl hi; roedd y Parthenon yn gysegredig iddi fel duwies y ddinas. Fe'i huniaethir â'r dduwies Rufeinig Minerva.

Gweler hefyd

  • 2 Pallas, asteroid a enwir ar ôl Pallas Athena.

Dolenni allanol

Athena  Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Tags:

AthenDuwiesGroeg yr HenfydLladinMinervaMytholegRhyfel

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

DenmarcGruffudd ab yr Ynad CochFfawt San AndreasCala goegIestyn GarlickOld Wives For NewPeriwNolan GouldNanotechnolegYr AlmaenIslamBlaiddBe.AngeledTucumcari, New MexicoRhyw tra'n sefyllEalandMeddygon MyddfaiTywysogHypnerotomachia PoliphiliUMCATeithio i'r gofodOlaf SigtryggssonDiwydiant llechi CymruZorroPARNLori dduPisoCastell TintagelTudur OwenTriongl hafalochrogBoerne, TexasAmerican WomanPensaerniaeth dataCERNWicidestunAmserRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonDaearyddiaethBora BoraDinasyddiaeth yr Undeb EwropeaiddSafleoedd rhywTocharegRheinallt ap GwyneddTwitterDNArfeecFfraincGertrude AthertonKatowiceWar of the Worlds (ffilm 2005)Llywelyn FawrDisturbiaSali MaliZ (ffilm)Undeb llafurNapoleon I, ymerawdwr FfraincDeuethylstilbestrolMathrafalYstadegaethY Ddraig GochGwlad PwylJimmy Wales🡆 More