ynglŷn  Wicipedia

Gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia a ysgrifennir yn gydweithredol gan ddarllenwyr y safle hwn.

Mae'r safle yn enghraifft o wici, sef math arbennig o wefan lle gall unrhyw un sydd â chysylltiad i'r rhyngrwyd olygu tudalennau trwy glicio ar y botwm golygu. Dechreuwyd y safle Saesneg yn 2001, ac mae'r fersiwn honno wedi tyfu i ddod yn un o'r safleoedd mwyaf poblogaidd ar y we. Nod y Wicipedia Cymraeg, a sefydlwyd yn 2003, yw efelychu'r llwyddiant hwnnw ac i ddod yn adnodd defnyddiol i siaradwyr Cymraeg ar y we.

Mae'n bwysig cofio fod gwahaniaethau sylfaenol yn bodoli rhwng Wicipedia a ffynonellau gwybodaeth traddodiadol. Gan fod yr hawl gan unrhyw un i olygu tudalennau, mae gwallau yn medru treiddio erthyglau, ac yn achlysurol ceir fandaliaeth neu wybodaeth anghywir mewn erthygl. Y ffordd orau i sicrhau bod y ffeithiau a gynhwysir mewn erthygl yn gywir yw edrych ar y ffynonellau a roddwyd ynddi; os gwelwch erthygl sydd angen ffynonellau, gallwch helpu drwy ychwanegu ffynonellau perthnasol.

Mae'r wybodaeth yn rhydd i bawb

Rhoddir cyfraniadau i Wicipedia yn hollol wirfoddol, o dan y trwyddedi Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported a GNU Free Documentation License (GFDL). Mae'r trwyddedi hyn yn defnyddio'r broses hawlfraint i sicrhau nad yw'r wybodaeth byth yn cael ei reoli gan unrhyw un person, fel ei bod ar gael am byth.

Felly, mae'r wybodaeth yn Wicipedia ar gael i unrhyw un ei chopïo, ei hail-ddosbarthu neu ei newid dros eu hunain, cyn belled â bod y fersiwn newydd yn rhoi'r un hawliau i eraill, a bod awduron yr erthygl wreiddiol yn derbyn cydnabyddiaeth (fel arfer mae cysylltiad nôl i'r erthygl wreiddiol yn gwneud y tro).

Tags:

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

TantraLos AngelesIemenJoseff StalinSex and The Single Girl16 EbrillLalsaluGwlad GroegTwrciGastonia, Gogledd CarolinaRhyw llawCanadaDe AffricaBoduanSussexKate RobertsMererid HopwoodYasuhiko OkuderaHuw ChiswellPont HafrenPrifysgolLynette DaviesDavid HilbertJohn Stuart MillPrifddinasCerddoriaeth rocAmerican Dad XxxFfôn symudolWiciGwneud comandoCantonegFfilm llawn cyffroISO 4217Mark DrakefordY DrenewyddCrigyllLeonhard EulerMichael Clarke DuncanStraeon Arswyd JapaneaiddComisiynydd yr Heddlu a ThrosedduVishwa MohiniEagle EyeY BeirniadSadwrn (planed)BolsieficEva StrautmannTwitch.tvPontiagoY ffliwFranz LisztAdieu Monsieur HaffmannShungaTŷ Opera SydneyAfon TafD.J. CarusoDaearyddiaeth EwropPensiwnBig BoobsY Dwyrain CanolGeorgia (talaith UDA)cefnforSingapôrTotalitariaethSimon BowerEnrico CarusoArf tânCân i Gymru 2024Dewi Sant🡆 More