Pobloedd Brodorol

Enw ar grwpiau o fodau dynol sydd yn frodorol i ardal ddaearyddol benodol yw pobloedd brodorol neu bobloedd cynfrodorol.

Term hynod o ddadleuol ydyw, sydd yn aml yn dibynnu ar gyd-destun academaidd, cyfreithiol, cymdeithasol, neu wleidyddol. Fel arfer, mae pobl frodorol cyfeirio at y bobl—boed yn llwyth, grŵp ethnig, neu genedl—sydd wedi byw mewn ardal am yr oes hiraf, ac sydd yn dal i oroesi yno. Yn ei ystyr gyffredin a chwmpasog, mae'r enw felly yn cynnwys nifer fawr o bobloedd wahanol ar draws y byd, beth bynnag yw'r sefyllfa gymdeithasol, wleidyddol, ddemograffig, ac economaidd gyfoes. Yn fwyfwy, defnyddir diffiniad cyfyngedig o'r term i ddisgrifio pobloedd a fu'n byw ar dir cyn dyfodiad goresgynwyr, gwladychwyr a mewnfudwyr, ac sydd yn dal i uniaethu â'r hunaniaeth ddiwylliannol, cymdeithasol, ac hanesyddol unigryw honno er gwaethaf grymoedd allanol. Mae'r ystyr hon yn neilltuol i bobloedd a fu'n hanesyddol ddarostynedig i goncwest filwrol, imperialaeth a threfedigaethu, difeddiant a dadleoli, ac yn aml erledigaeth hiliol ac hil-laddiad, anffawd sydd naill ai yn parhau neu sydd yn dangos ei effeithiau hyd heddiw. Fel rheol, byddai'r bobloedd hynny bellach yn lleiafrif demograffig o fewn mamwlad eu hunain, a châi eu hunaniaeth a ffordd o fyw unigryw eu bygythio gan dra-arglwyddiaeth y gymdeithas wladychol, yn ogystal ag effeithiau globaleiddio. Cydnabyddir pobloedd brodorol yn ôl y diffiniad hwn gan gyfreithiau a chyfundrefnau rhyngwladol er mwyn gwarchod eu hunaniaeth ac etifeddiaeth a pharchu'n swyddogol eu perthynas â'r tir, yn aml gyda'r nod o wneud iawn am gam-driniaeth hanesyddol y bobloedd honno. Mae rhai fframweithiau cyfreithiol yn cydnabod hawliau grŵp pobl frodorol i hunanbenderfyniad, tir, ac adnoddau naturiol, tra bo eraill yn canolbwyntio ar ddiogelu'r unigolyn brodorol rhag gwahaniaethu ar sail ei ethnigrwydd, a sicrhau cyfeloedd iddo fe neu iddi hi ymddiwylliannu i'r brif gymdeithas.

Cyfeiriadau

Tags:

Bod dynolCenedlCyfundrefn ryngwladolGlobaleiddioGrŵp (cymdeithaseg)Grŵp ethnigGwahaniaethuHawliau grŵpHawliau tir brodorolHil-laddiadHiliaethHunanbenderfyniadHunaniaeth ddiwylliannolImperialaethLlwythMewnfudoPoblTrefedigaethrwyddYmddiwylliannu

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

ChicagoOwain Glyn DŵrFfloridaBenjamin NetanyahuEwropIestyn GarlickArchdderwyddWashington, D.C.Gruff RhysMycenaeEthiopiaHwyaden ddanheddogRhestr AlbanwyrDinasExtremoYr Ail Ryfel BydRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrTȟatȟáŋka ÍyotakeTudur OwenYstadegaethPengwin18 HydrefSefydliad Wikimedia1904Rhyw llawTorontoHannah DanielGwyddonias69 (safle rhyw)Alan SugarDonatella Versace19eg ganrifSarn BadrigBamiyanEthnogerddolegElectronRwsiaidXXXY (ffilm)Tom Le CancreY DdaearLloegr NewyddKrak des ChevaliersAlecsander FawrAnna VlasovaSeattleDiwrnod y LlyfrGalaeth y Llwybr Llaethog1865 yng Nghymru1961LlundainBrad y Llyfrau GleisionComin WicimediaFfilm bornograffigEisteddfod Genedlaethol CymruMynydd IslwynGaius MariusCyfrwngddarostyngedigaethMahanaEmoções Sexuais De Um CavaloProtonJac a Wil (deuawd)The Witches of BreastwickBrwydr Gettysburg🡆 More