Enw Deuenwol

Enw deuenwol neu enw binomaidd mewn Bioleg yw'r dull safonol o enwi rhywogaeth.

Mae'n cynnwys dau enw: enw'r genws ac enw arbennig i'r rhywogaeth ei hun; er enghraifft Homo sapiens.

Enw Deuenwol
Carolus Linnaeus, sefydlydd y drefn o defnyddio enwau deuenwol

Yr arferion ynglŷn â'u defnyddio yw:

  • Fel rheol maent yn cael eu hysgrifennu mewn llythrennau italig.
  • Defnyddir llythyren fawr ar gyfer enw'r genws a llythyren fach ar gyfer enw'r rhywogaeth (hyd yn oed os yw'r enw hwnnw yn dod o enw person neu le).
  • Yn ffurfiol, mae'r enw deuenwol yn cael ei ddilyn gan gyfenw y person a ddisgrifiodd y rhywogaeth gyntaf.
  • Mewn papur gwyddonol, rhoir yr enw yn llawn y tro cyntaf; wedi hynny gellir talfyrru enw'r genws; er enghraifft Aderyn y To Passer domesticus yn troi'n P. domesticus

Dechreuwyd y system gan Carolus Linnaeus (1707 - 1778), a geisiodd roi enw deuenwol i bob rhywogaeth oedd yn wybyddus iddo. O ganlyniad, enw Linnaeus sydd ynghlwm wrth y nifer fwyaf o enwau deuenwol, ac fe'i talfyrrir i L. mewn botaneg.

Daw'r enwau o'r Lladin neu o ieithoedd eraill, ond beth bynnag eu tarddiad maent yn cael eu trin fel pe baent yn Lladin o ran gramadeg.

Cyfeiriadau

Tags:

BiolegGenwsHomo sapiensRhywogaeth

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

El NiñoVladimir PutinTrwythEmmanuel MacronArfon WynNew HampshireRhestr o safleoedd iogaEigionegRhydamanY Mynydd Grug (ffilm)LlanymddyfriSefydliad Wicifryngau1724Cymylau nosloywDuWici19771971RSSdefnydd cyfansawddPiodenThe Principles of LustNaoko NomizoCeredigionHiliaethSupport Your Local Sheriff!Tamanna2012SgitsoffreniaRhif Llyfr Safonol RhyngwladolRecordiau CambrianJohn Frankland RigbyMean MachineRhestr adar CymruCymruAlmaenYr wyddor LadinCilgwriDonusaAfon DyfiAfon YstwythAfon TywiBronnoeth1993KentuckyEconomi CymruCreampieThe Departed14 ChwefrorAfon GwendraethTânS4CAn Ros MórJapanYr Ail Ryfel BydMickey MouseBugail Geifr LorraineAnadluHen Wlad fy NhadauAtorfastatinDydd MercherMarion HalfmannY Blaswyr FinegrNionynLos AngelesAfon Glaslyn🡆 More