Ynys Bŷr: Ynys bychan yn Sir Benfro

Ynys fechan yn y môr ar ymyl Bae Caerfyrddin i'r de o Ddinbych y Pysgod yn Sir Benfro yw Ynys Bŷr (Saesneg: Caldey Island o'r Hen Norseg Keld-Eye 'Ynys Oer').

Mae'n cael ei henwi ar ôl y mynach cynnar Pŷr (digwydd ei enw yn ail ran enw tref Maenorbŷr, ar y tir mawr cyferbyn â'r ynys, yn ogystal). Mae'r ynys tua tair milltir o hyd, ac o hinsawdd fwyn gyda'r awel gynnes yn dod i mewn o'r Iwerydd.

Ynys Bŷr
Ynys Bŷr: Hanes, Mynediad, Gweler hefyd
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth40 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Arfordir Penfro Edit this on Wikidata
SirDinbych-y-pysgod Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2.14 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Hafren Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6372°N 4.6856°W Edit this on Wikidata
Hyd2.4 cilometr Edit this on Wikidata

Hanes

Mae'r ynys wedi bod yn lle i fyw ers canrifoedd. Mae archaeolegwyr wedi darganfod olion pobl oedd yn byw yn Hen Oes y Cerrig yn Ogof Nana ar yr ynys.

Mae'n debyg ei bod fwyaf adnabyddus am ei mynachlog. Adeiladwyd y gyntaf gan Sant Dyfrig yn y chweched ganrif. Clas Cymreig oedd y sefydliad hwnnw. Yn ôl un traddodiad, claddwyd Sant Cathen, sefydlydd Llangathen, yno. Yn amser y Normaniaid adeiladwyd priordy ar safle'r hen fynachlog ac mae rhan o'r hen adeilad yno o hyd. Roedd y Benedictiaid yno o 1136 tan i Harri VIII o Loegr ddiddymu'r mynachlogydd yn 1536. Sefydlodd grŵp Benedictiaid Anglicanaidd fynachlog ar yr ynys yn 1906, a derbyniwyd hwy i'r Eglwys Gatholig yn 1913. Oherwydd trafferthion ariannol, gwerthwyd yr ynys i’r Sistersiaid, a gyrhaeddodd yn 1929 ac sydd yno hyd heddiw..

Mewn capel heb fod ymhell o'r priordy mae carreg gyda ysgrifen Ogam ac ysgrifen Ladin arni. Mae'r ogam yn darllen - 'Dyma (golofn) Moel Dolbrochion mab .......', a'r Lladin: 'Rwyf i wedi ei ddarpar â chroes. Gofynnaf i bawb a gerddo y ffordd hon weddïo dros enaid Cadwgan.'

Adeiladwyd goleudy ar yr ynys yn 1828.

Mynediad

Mae llongau yn hwylio drosodd i'r ynys o Ddinbych y Pysgod yn rheolaidd yn nhymor yr haf.

Ynys Bŷr: Hanes, Mynediad, Gweler hefyd 
Map o'r ynys (1952)
Ynys Bŷr: Hanes, Mynediad, Gweler hefyd 
Priordy Ynys Bŷr

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Ynys Bŷr HanesYnys Bŷr MynediadYnys Bŷr Gweler hefydYnys Bŷr CyfeiriadauYnys Bŷr Dolenni allanolYnys BŷrBae CaerfyrddinCefnfor IweryddDinbych y PysgodHen NorsegMaenorbŷrPŷrSaesnegSir BenfroYnys

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Lludd fab BeliDatguddiad IoanHunan leddfu1573Bashar al-AssadUsenetA.C. MilanSiot dwadWild Country1855Prifysgol RhydychenDifferuLlywelyn ap GruffuddKate RobertsWeird Woman713Yr WyddgrugCymruNapoleon I, ymerawdwr FfraincYr HenfydLlundain80 CCYr Ail Ryfel BydLlinor ap GwyneddSbaenHimmelskibetBuddug (Boudica)Jimmy WalesBlwyddyn naidRhosan ar WyDinbych-y-PysgodCocatŵ du cynffongochCymraegHebog tramorGwyddoniaethHanesThe JerkHoratio NelsonY Ddraig GochBig BoobsParth cyhoeddusBoerne, TexasRhyw rhefrolMorwynImperialaeth NewyddZeusDydd Iau CablydMuhammadSiarl III, brenin y Deyrnas UnedigGertrude AthertonMenyw drawsryweddolBrasilCreampieFfeministiaethHinsawdd716NovialDyfrbont PontcysyllteRihannaRwmaniaSafleoedd rhywDe AffricaGodzilla X MechagodzillaKrakówPisaJonathan Edwards (gwleidydd)LlydawFfrainc🡆 More