Brenin Lloegr o 22 Ebrill 1509 hyd ei farwolaeth oedd Harri VIII (28 Mehefin 1491 – 28 Ionawr 1547).
Roedd hefyd yn Arglwydd Iwerddon (Brenin Iwerddon yn ddiweddarach) ac yn hawliwr ar deyrnas Ffrainc. Harri oedd yr ail deyrn yn Nhŷ'r Tuduriaid, gan olynu ei dad, Harri VII.
Harri VIII, brenin Lloegr | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1491 Palas Placentia |
Bu farw | 28 Ionawr 1547 o henaint Palas Whitehall |
Swydd | teyrn Lloegr, teyrn Iwerddon, Arglwydd Geidwad y Pum Porthladd, Iarll Farsial, Lord Warden of the Marches, Arglwydd Raglaw yr Iwerddon, Dug Iorc, Iarllaeth Caer, Dug Cernyw, Tywysog Cymru, Arglwydd Iwerddon |
Tad | Harri VII |
Mam | Elisabeth o Efrog |
Priod | Catrin o Aragón, Ann Boleyn, Jane Seymour, Ann o Cleves, Catrin Howard, Catrin Parr |
Partner | Elizabeth Blount, Mary Boleyn, Elizabeth Stafford, Countess of Sussex, Joan Dingley, Margaret Shelton, Jane Popincourt, Anne Bassett, Elizabeth Carew, Anne Hastings |
Plant | Mari I, Henry Fitzroy, Elisabeth I, Edward VI, Harri, Dug Cernyw, merch farw-anedig, Harri, Harri, ail ferch farw-anedig, Henry, mab marw-anedig Tudor, Catherine Carey, Ethelreda Malte, Richard Edwardes, Thomas Stukley, Henry Carey |
Perthnasau | Ferrando II, Juan, tywysog Asturias, Felipe I, brenin Castilla, Iago V, brenin yr Alban, Mari, brenhines yr Alban |
Llinach | tuduriaid |
llofnod | |
Yn nheyrnasiad Harri VIII penderfynwyd 'uno' Cymru a Lloegr fel uned gyfreithiol (gweler Deddfau Uno 1536 a 1543).
Harri VIII a sefydlodd Eglwys Loegr. Ar ei orchymyn ef diddymwyd y mynachlogydd yng Nghymru a Lloegr yn 1537.
Ganwyd Harri VIII ym Mhalas Greenwich, ger Llundain, yn drydydd plentyn i Harri VII, brenin Lloegr ac Elisabeth o Efrog. Dim ond tri o frodyr neu chwiorydd Harri a oroesodd plentyndod, sef Arthur, Tywysog Cymru, Marged a Mari; y rhai a fu farw oedd Elisabeth Tudur, Edmwnd Tudur, Dug Somerset a Catherine Tudur. Ym 1493, ag yntau'n ddeuflwydd oed, apwyntiwyd Harri yn Gwnstabl Castell Dover ac Arglwydd Geidwad y Pum Porthladd (Lord Warden of the Cinque Ports). Ym 1494, crewyd yn Ddug Efrog. Apwyntiwyd yn ddiweddarach yn Iarll Marsial Lloegr ac Arglwydd Raglaw Iwerddon. Derbyniodd Harri addysg o'r safon uchaf gan diwtoriaid blaengar, gan ddod yn rhugl mewn Lladin, Ffrangeg a Sbaeneg. Gan y disgwyliwyd i'w frawd hŷn, y Tywysog Arthur, etifeddu'r orsedd, paratowyd Harri ar gyfer gyrfa yn yr eglwys.
Ym 1502, bu farw Arthur yn 15 oed. Wedi ei farwolaeth, disgynodd ei ddyletswyddau i Harri, a ddaeth yn Dywysgog Cymru. Ail-gydiodd Harri VII yn ei ymdrechion i greu cynghrair rhwng Lloegr a Sbaen trwy gynnig Harri yn ŵr i gweddw Arthur, Catrin o Aragón, sef plentyn ifengaf a oroesodd i Fernando II, brenin Aragón a Isabel I, brenhines Castilla.
Fel arfer, er mwyn i'r tywysog newydd briodi gweddw ei frawd, buasai'n rhaid gwneud cais am ollyngiad gan y Pab er mwyn goruwchreoli y rhwystr o affinedd, fel y dywed yn llyfr Lefiticus "Os bydd brawd yn priodi gwraig ei frawd byddent yn aros yn ddi-blant". Mynodd Catrin nad oedd ei phriodas â'r tywysog Arthur wedi cael ei gyflawni. Ond, cytunodd Lloegr a Sbaen y buasai gollyngiad gan y Pab yn ddoeth er mwyn cael gwared ar unrhyw amheuaeth ynglŷn â chyfreithlondeb y briodas.
Achosodd diffyg amynedd mam Catrin, y Frenhines Isabel I, i'r Pab Iŵl II addef gollyngad ar ffurf Bwla Pabaidd. Felly, 14 mis wedi marwolaeth Arthur roedd Catrin a Harri am briodi, ond erbyn 1505, roedd Harri VII wedi colli diddordeb yn y gynghrair, a datganodd yr Harri ifengaf fod y briodas wedi cale ei drefnu heb ei gytundeb.
Parhaodd symudiadau diplomyddol ynglŷn â tynged y briodas a gynigwyd hyd marwolaeth Harri VII ym 1509. Priododd Harri â Catrin, ag yntau ond yn 17 oed, ar 11 Mehefin 1509, a coronwyd y ddau ar 24 Mehefin 1509, yn Abaty San Steffan.
Ychydig ddyddiau wedi ei gorono, arestiodd dau o weinidogion mwyaf amhoblogaidd ei dad, Syr Richard Empson ac Edmund Dudley. Cawsont eu cyhuddo'n ddi-sail o deyrnfradwriaeth a dienyddwyd hwy ym 1510. Daeth hyn yn un o brif dactegau Harri er mwyn ymdrin â'r rhai a safai yn ei ffordd.
Roedd Harri yn bolymath, ac roedd ei lys yn ganolfan ar gyfer datblygiadau newydd celfyddydol ac ysgolheigaidd a gormodaeth cyfareddol, caiff hyn ei arddangos gan Faes y Defnydd Aur. Roedd yn gerddor, awdur a bardd galluog. "Pastime with Good Company" neu "The Kynges Ballade" yw ei gyfansoddiad cerddorol mwyaf adnabyddus. Roedd yn gamblwr a chwaraewr dis o fri, ac roedd yn rhagori mewn chwaraeon, yn enwedig ymwanu, hela, a tenis brenhinol. Roedd hefyd yn adnabyddus am ei gysegriad cryf i Gristnogaeth.
Ym 1511, datganodd y Pab Iŵl II Gynghrair Sanctaidd yn erbyn Ffrainc. Tyfodd y gynghrair yn gyflym i gynnwys nid yn unig Sbaen a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, ond hefyd Lloegr. Penderfynodd Harri ddefnddio'r digwyddiad fel esgus i ymestyn ei ddeiliadau yng ngogledd Ffrainc. Casglodd Gytundeb San Steffan, sef addewid o gymorth cilyddol gyda Sbaen yn erbyn Ffrainc, ym mis Tachwedd 1511, a paratôdd i gymryd rhan yn Rhyfel Cynghrair Cambrai. Ym 1513, goresgynodd Harri Ffrainc a gorchfygwyd y fyddin Ffrengig gan ei luoedd ym Mrwydr y Spurs. Goresgynodd ei frawd-yng-nghyfraith, Iago IV, brenin yr Alban Loegr yn ôl ewyllys Louis XII, brenin Ffrainc, ond ni lwyddodd i ddenu sylw Harri oddi ar Ffrainc. Cafodd yr Albanwyr eu gorchfygu'n drychinebus ym Mrwydr Flodden Field ar 9 Medi 1513. Ymysg y marw roedd brenin yr Alban, a daeth a'r frwydr a ymglymiad yr Alban yn y rhyfel i ben.
Ar 18 Chwefror 1516, roddodd y frenhines Catrin eni i blentyn cyntaf Harri i oroesi genedigaeth, Mari, Tywysoges Lloegr, a deyrnasodd yn ddiweddarach fel Mari I, brenhines Lloegr. (Ganwyd mab, Harri, Dug Cernyw, ym 1511 ond goroesodd ychydig wythnosau yn unig.)
Gweler hefyd:
Rhagflaenydd: Harri VII | Brenin Lloegr 22 Ebrill 1509 – 28 Ionawr 1547 | Olynydd: Edward VI |
Rhagflaenydd: Arthur Tudur | Tywysog Cymru 18 Chwefror 1504 – 22 Ebrill 1509 | Olynydd: Harri Stuart |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Harri VIII, brenin Lloegr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.