Y Gribyn (795 m / 2,608') (neu Bryn Teg) yw trydydd copa uchaf Bannau Brycheiniog, yn ne Powys.
Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn gorwedd yn agos i Ben y Fan, mynydd uchaf y grŵp.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 795 metr |
Cyfesurynnau | 51.8817°N 3.4194°W |
Cod OS | SO0239221317 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 130 metr |
Rhiant gopa | Pen y Fan |
Cadwyn fynydd | Bannau Brycheiniog |
Uchder y copa o lefel y môr ydy 795 metr (2608 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 665metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.
Gellir dringo Cribyn o ddau gyfeiriad. Y llwybr hawsaf a mwyaf poblogaidd yw'r hwnnw sy'n cychwyn o fforest Taf Fechan ger cronfa ddŵr Pontsticill.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Gribyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.