Dinas hanesyddol yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Veliky Novgorod (Rwsieg Вели́кий Но́вгород).
Lleolir ar Afon Volkhov, 6 km i'r de o Llyn Ilmen ac 552 km i'r gogledd-orllewinol o ddinas Moscfa. Canolfan weinyddol Oblast Novgorod yw hi.
Math | tref/dinas, dinas fawr, okrug ddinesig |
---|---|
Poblogaeth | 222,594 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Jurij Bobrysjev, Sergey Vladimirovich Busurin, Alexander Rozbaum |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Oblast Novgorod |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 90.08 km² |
Uwch y môr | 25 metr |
Gerllaw | Llyn Ilmen, Afon Volkhov |
Yn ffinio gyda | Novgorodsky District |
Cyfesurynnau | 58.52099°N 31.27579°E |
Cod post | 173000–173999 |
Pennaeth y Llywodraeth | Jurij Bobrysjev, Sergey Vladimirovich Busurin, Alexander Rozbaum |
Mae Novgorod ymysg dinasoedd hynaf Rwsia. Mae'r cyfeiriad cyntaf ati mewn brut Rwsiadd yn dyddio i'r flwyddyn 859, a cheir cyfeiriadau ati mewn ffynonellau tramor yn gynharach fyth. Yn yr Oesoedd Canol roedd hi'n ddinas fasnachol bwysig dan arweinyddiaeth y veche, cyngor dinasyddion, mewn cyfundrefn weriniaethol. Chwaliwyd Gweriniaeth Novgorod ym 1478, pryd cipiwyd y ddinas a'i hychwanegu at deyrnas Muscovy gan Ifan III.
Ystyr yr enw Novgorod yw 'Dinas Newydd'. Hyd 1999 enw swyddogol y ddinas oedd Novgorod yn unig, er y defnyddid Velikiy ('Fawr') fel epithed anffurfiol. Ym 1999 newidiwyd yr enw yn swyddogol i Velikiy Novgorod ('Novgorod Fawr'), gan i ddinas Gorky ddychwelyd i'w hen enw, Nizhniy Novgorod ('Novgorod Isaf'), a oedd wedi arwain at ddryswch a chamgymeriadau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Veliky Novgorod, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.