Llyn yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Llyn Ilmen (Rwseg Озеро Ильмень / Ozero Ilmen).
Fe'i lleolir yng ngorllewin Oblast Novgorod, 6 km i'r de o ddinas Novgorod. Ei hyd yw 40 km, a'i led ar ei uchaf yw 32 km. Mae ei arwynebedd yn amrywio o 733 i 2090 km2 yn ôl lefel y dŵr. Mae'n llyn bas: ei ddyfnder yn ei fan dyfnaf yw 10m. Mae ei lannau'n fflat, ac, yn y dde, yn gorsog. Mae Afon Volkhov yn llifo allan ohono i'r gogledd yn rhedeg tuag at Lyn Ladoga, sy'n arwain yn y pendraw at Gwlff y Ffindir dros Afon Neva a St Petersburg.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Oblast Novgorod |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 982 km² |
Uwch y môr | 18 metr |
Cyfesurynnau | 58.27°N 31.28°E |
Dalgylch | 67,200 cilometr sgwâr |
Hyd | 45 cilometr |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llyn Ilmen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.