Roedd Thomas Wood (21 Ebrill 1777 – 26 Ionawr 1860) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Torïaidd / Ceidwadol a fu'n cynrychioli Sir Frycheiniog yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1806-1847.
Thomas Wood | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ebrill 1777 Westminster |
Bu farw | 26 Ionawr 1860 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol, Tori |
Plant | David Edward Wood |
Roedd Wood yn fab i Thomas Wood a Mary Williams ei wraig, merch ac aeres Syr Edward Williams o Gastell Llangoed. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Harrow (1788-1795) a Choleg Oriel, Rhydychen (1796). Roedd y teulu wedi caffael ar ystadau sylweddol yn Middleham, Swydd Efrog, Gwernyfed ac yn Littleton ac Astlam ym Middlesex.
Priododd ddwywaith; ei wraig gyntaf oedd y Ledi Caroline Stewart, merch Robert Stewart, Ardalydd 1af Londonderry; bu iddynt 4 mab a 2 ferch. Bu ei fab y Cyrnol Thomas Wood yn aelod seneddol dros Middlesex. Ei ail wraig oedd y Ledi Frances Pratt, merch Charles Pratt, Iarll 1af Camden.
Yn 1806 etholwyd Wood yn aelod seneddol etholaeth Sir Frycheiniog. Daliodd y sedd hyd 1847.
Fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Frycheiniog ar gyfer 1809-10.
Bu Wood a'i wraig yn gyfeillgar gydag aelodau'r teulu brenhinol. Bu Siôr IV yn ymweld â'r Woods yng Ngwernyfed a bu aelodau eraill y teulu yn ymwelwyd â hwy yn Littleton.
Bu farw yn 82 oed.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Charles Gould Morgan | Aelod Seneddol Sir Frycheiniog 1806 – 1847 | Olynydd: Joseph Bailey |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Thomas Wood (AS Sir Frycheiniog), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.