Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Iseldiroedd (Iseldireg: Nederlands nationaal voetbalelftal) yw enw'r tîm sy'n cynrychioli yr Iseldiroedd mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol.
Rheolir y tîm gan Gymdeithas Pêl-droed Frenhinol yr Iseldiroedd (Iseldireg: Koninklijke Nederlandse Voetbalbond) (KNVB). Mae'r KNVB yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Yr Iseldiroedd | |||
Llysenw | Oranje | ||
---|---|---|---|
Cymdeithas | Cymdeithas Pêl-droed Frenhinol yr Iseldiroedd | ||
Conffederasiwn | UEFA | ||
Prif Hyfforddwr | Bert van Marwijk | ||
Capten | Giovanni van Bronckhorst | ||
Mwyaf o Gapiau | Edwin van der Sar (130) | ||
Prif sgoriwr | Patrick Kluivert (40) | ||
Stadiwm cartref | Amsterdam Arena De Kuip Philips Stadion | ||
Cod FIFA | NED | ||
Safle FIFA | 2 | ||
| |||
Gêm ryngwladol gyntaf | |||
Gwlad Belg 1–4 Yr Iseldiroedd (Antwerp, Gwlad Belg; 30 Ebrill 1905) | |||
Buddugoliaeth fwyaf | |||
Yr Iseldiroedd 9-0 Y Ffindir (Solna, Sweden; 4 Gorffennaf 1912) Yr Iseldiroedd 9-0 Norwy (Rotterdam, Yr Iseldiroedd; 1 Tachwedd 1972) | |||
Colled fwyaf | |||
Amaturiaid Lloegr 12-2 Yr Iseldiroedd (Darlington, Lloegr; 21 Rhagfyr 1907) | |||
Cwpan y Byd | |||
Ymddangosiadau | 9 (Cyntaf yn 1934) | ||
Canlyniad Gorau | Rownd derfynol, 1974, 1978, 2010 | ||
Pencampwriaeth Ewrop | |||
Ymddangosiadau | 8 (Cyntaf yn 1976) | ||
Canlyniad Gorau | Enillwyr, 1988 | ||
|
Mae'r Oranjie (oren) yn dal y record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau yn rownd derfynol Cwpan y Byd heb erioed ennill y bencampwriaeth ar ôl colli yn y rownd derfynol ym 1974, 1978 a 2010 yn erbyn Gorllewin Yr Almaen, Yr Ariannin a Sbaen.
Maent wedi ennill Pencampwriaeth Ewrop yn 1988 ac wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd dair gwaith, yn 1974, 1978 a 2010.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Iseldiroedd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.