Endid, llun, gair ysgrifenedig, sain, neu farc arbennig yw symbol, sy'n cynrychioli rhywbeth arall drwy cysylltiad, tebygrwydd, neu gonfensiwn, yn arbennig gwrthrych materol a ddefnyddir i gynrychioli rhywbeth anweladwy.
Mae symbolau'n dangos (neu'n gwasanaethu fel) a chynrychioli syniadau, cysyniadau, a haniaethau eraill. Er enghraifft, ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia, mae octagon coch yn symbol sy'n trosglwyddo'r syniad penodedig (neu'r modd o) "STOPIO" neu "ATAL".
Esiampl cyffredin yw'r symbolau a ddefnyddir ar fapiau i ddynodi llefydd o ddidordeb megis cleddyfau wedi croesi i farcio maes brwydr, a rhifolion i gynrychioli rhifau.
Daw'r gair "symbol" o'r Hen Ffrangeg, o Lladin, yn wreiddiol o'r iaith Groeg σύμβολον (sýmbolon). Y geiriau gwraidd yw συν- (syn-) sy'n golygu "cyd-" a βολή (bolē) "tafliad", sy'n rhoi'r ystyr "i daflu at ei gilydd" yn fras, yn llythrennol "cyd-ddigwyddiad" (zu-fall), hefyd "arwydd, tocyn neu cyfangiad". Mae'r dystiolaeth cynharaf o ddefnydd y gair iw gael yn Emyn Homeric i Hermes, pan mae Hermes yn ochneidio, ar weld y crwban, συμβολον ηδη μοι "symbolon [symbol/arwydd/rhagarwydd/cyfarfod/hap ddarganfyddiad?] o llawenydd i mi!" cyn ei droi i mewn i lyra.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Symbol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.