Uned gwybyddol o ystyr - syniad haniaethol neu symbol meddyliol a ddiffinir weithiau fel uned o wybodaeth, a grëir gan unedau eraill sy'n gweithredu fel ei nodweddion, yw cysyniad.
Gan amlaf cysylltir cysyniad gyda chynrychiolaeth mewn iaith neu symbolaeth [angen ffynhonnell] megis ystyr unigol term.
Ceir damcaniaethau mewn athroniaeth gyfoes sy'n ceisio esbonio natur cysyniadau. Cynigia'r ddamcaniaeth gynrychioladol y meddwl fod cysyniadau yn gynrychioliadau meddyliol, tra bod damcaniaethau semantig o gysyniadau (sy'n tarddu o wahaniaeth Frege rhwng cysyniad a gwrthrych) yn credu eu bod yn wrthychau haniaethol. Ystyrir syniadau yn gysyniadau, er nid yw cysyniadau o reidrwydd yn ymddangos yn y meddwl fel delweddau fel y gwna rhai syniadau. Ystyria rhai athronwyr cysyniadau yn gategori ontolegol hanfodol o fod.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cysyniad, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.