Pennod neu adran o'r Corân, llyfr sanctaidd y Mwslemiaid yw Swra.
Ystyr lythrennol y gair Arabeg sûrah yw "rheng, palisâd." Er mai "pennod" yw'r gair a arferir i'w gyfieithu nid yw'r Mwslemiaid yn ei ystyried felly oherwydd eu bod yn credu bod y Corân yn gyfanwaith perffaith, heb raniadau. Ceir 114 swra yn y Coran awdurdodedig ond ym mlynyddoedd cynnar Islam ceid peth amrywiaeth yn eu nifer a'u cynnwys. Ceir tri neu ragor o "benillion" (âya) ym mhob swra. Credir eu bod wedi eu cyfansoddi naill ai ym Mecca neu ym Medina, ac fe nodir hyn ar ddechrau pob swra mewn rhai argraffiadau o'r Corân. Nid ydynt wedi eu trefnu'n gronolegol, fel yn achos llyfrau'r Beibl, ond yn hytrach yn ôl ei gynnwys.
Math | pennod |
---|---|
Rhan o | Y Corân |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhan o gyfres ar |
---|
Athrawiaeth |
Arferion |
Hanes ac Arweinwyr |
Ahl al-Bayt · Sahaba |
Testunau a Deddfau |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Sunni · Shi'a |
Diwylliant a Chymdeithas |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Islamoffobia · Termau Islamig |
Mae'r swra gyntaf, Al-Fâtiha, yn fath o weddi agoriadol sy'n crynhoi credo'r Mwslim. Yna daw cyfres o swrâu cymharol hir sy'n ymwneud â chyfraith a dyletswyddau. Mae gweddill y swrâu, o rif 36 Sûratu Yâ-sîn ymlaen, yn tueddu i fod yn fyrrach o lawer ac yn fwy telynegol a chyfriniol eu naws; fe'u gelwir yn Rub'u Yâ-sîn a cheir argraffiadau ohonynt ar wahân dan yr enw hwnnw. Mae enwau'r swrâu yn fymryn mwy diweddar na'r testunau eu hunain ac yn tarddu o ganrif gyntaf yr Hegira, yr oes Islamaidd. Mae ystyr rhai o'r enwau yn dywyll (rhif 7, 8, 11, 15, 20, 31, 34, 36, 46, 47, 52, 106). Egyr pob swra namyn un (rhif 9) â'r basmala, sy'n fath o weddi neu alwad ar Dduw; Bismil Lâhi r-Rahmâni r-Rahîm, "Yn Enw Duw, y Maddeuol, y Trugarhaol".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Swra, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.