Mae Mwslimiaid yn ystyried sawl bod dynol yn un o broffwydi Islam.
Enwir sawl proffwyd yn Coran, gan ddechrau gyda Adda, "y dyn cyntaf". Cred Mwslemiaid fod y proffwydi hyn yn olyniaeth dan law Duw (Allah) ac mai'r Proffwyd Muhammad yw'r olaf am iddo ddatgelu y Coran i'r dynolryw (ond cred rhai yn nyfodiad y Mahdi hefyd).
Enw (Arabeg) | Enw (Beiblaidd) | Prif erthygl(au) | Cyfeiriadau yn y Coran (nifer y sŵras lle ceir cyfeiriadau) |
---|---|---|---|
آدم Adam | Adda |
| 5 |
"Adda yw proffwyd cyntaf Islam a'r bod dynol cyntaf i gael ei greu." Mae'n ffigwr pwysig yn Iddewiaeth a'r Gristnogaeth hefyd sy'n cael ei gysylltu yn bennaf a hanes Adda ac Efa fel y'i ceir yn Llyfr Genesis, y Coran a ffynonellau eraill. | |||
إدريس Idris | Enoc |
| 3 |
Roedd Idris yn broffwyd a achubodd y ddynoliaeth rhag sychder mawr trwy weddio ar Dduw am law. | |||
نوح Nuh | Noa |
| 7 |
Cysylltir Noa a hanes y Dilyw, ond yn Islam fe'i cofir yn bennaf am hyrwyddo unduwiaeth. | |||
هود Hud | Eber |
| 9 |
Un o'r ychydig rai i oeroesi dilyw a anfonwyd gan Dduw oedd Hud (Eber), yn ôl y sŵra Hud yn y Coran. | |||
صالح Saleh | Shaloh |
| 7 |
Yn ôl y Coran, dewiswyd Saleh gan Dduw i achub ei bobl rhag cosb ddwyfol. | |||
إبراهيم Ibrahim | Abraham |
| 5 |
Ibrahim yw un o broffwydi mwyaf Islam am fod Mwslemiaid yn credi iddo ailgodi'r Kaaba ym Mecca. Ei fab oedd Ishmael. | |||
لوط Lut | Lot |
| 2 |
Cofir am Lot yn Islam am ei ran yn hanes Sodom a Gomorra. Mae Islam yn gwrthod rhai o'r hanesion amdano yn y Hen Destament, iddo feddwi a chysgu gyda'i merched er enghraifft, fel rhai cableddus ac enllibus. | |||
إسماعيل Isma'il | Ishmael |
| 9 |
Mab cyntafanedig Ibrahim a phroffwyd mawr yn Islam yw Ishmael. Fe'i cysylltir a darganfod y ffynnon sanctaidd Zamzam, ger Mecca. | |||
إسحاق Ishaq | Isaac |
| 9 |
Ail fab Abraham oedd Isaac, a ddaeth yn broffwyd yng ngwlad Canaan. | |||
يعقوب Yakub | Iacob |
| 2 |
Roedd Yakub yn broffwyd a mab i Isaac, a barhaodd a gwaith ei daid Abraham. | |||
يوسف Yusuf | Ioseff |
| 3 |
Mab Iacob a disgynydd i Ibrahim oedd Yusuf. Ceir hanes amdano yn gynghori brenin yr Aifft. Yn ôl dysgeidiaeth Islam, bendithwyd Yusuf â harddwch eithriadol. | |||
أيوب Ayyub | Job |
| 8 |
Bendithwyd Ayyub â ffynnon ieunctid am ei wasanaeth i Dduw yn ei dref ger Al Majdal. | |||
شعيب Shu'aib | Jethro |
| 2 |
Un o ddisgynyddion Abraham oedd Shu'aib. Roedd yn byw yn ardal Sinai. | |||
موسى Musa | Moses |
| 5 |
Ceir mwy o gyfeiriadau at Musa yn y Qur'an nag at unrhyw broffwyd arall. Credir iddo ddatguddio'r Tawrat (Torah) i'r Hebreaid. Fe'i cysylltir ag ardal Sinai lle cafodd y Deg Gorchymyn wrth arwain yr Hebreaid o'r Aifft i Dir yr Addewid. | |||
هارون Harūn | Aaron |
| 8 |
ذو الكفل Dhul-Kifl | Ezekiel |
| 5 |
Mae statws Dhul-Kifl fel proffwyd yn ddadleuol yn Islam, er bod parch mawr ato fel arall. Mae rhai ymchwilwyr yn ceisio ei uniaethu ag Obadiah yn y Beibl. | |||
داود Dawud | Dafydd |
| 7 |
Yn Islam, datgelodd Duw y Zabur (Salmau) i Dawud. Ef hefyd a orchfygodd y cawr Goliath. | |||
سليمان Süleyman | Solomon |
| 6 |
Mab Dafydd a phroffwyd doeth oedd Solomon (Arabeg: Süleyman). Cafodd y ddawn i reoli elfennau natur, yn cynnwys y jinn. Roedd ei deyrnas yn ymestyn o Balesteina hyd Arabia, yn ôl y Coran. | |||
إلياس Ilyas | Elija |
| 3 |
Un o ddisgynyddion Harun (Aaron) oedd Ilyas (Elijah), a olynodd y brenin Sulaiman (Solomon). | |||
اليسع Al-Yasa | Elisha |
| 3 |
Proffwyd a arweiniodd ei bobl ar ôl marwolaeth Elija oedd Al-Yasa (Elisha). | |||
يونس Yunus | Jonah |
| 5 |
Yn Islam mae Duw yn gorchymun Yunus (Jonah) i arwain pobl Ninefeh ar lwybr cyfiawnder. | |||
زكريا Zakariya | Zechariah |
| 6 |
Yn ddisgynnydd i Solomon, Zakariya (Zechariah) oedd ymgeleddwr Maryam (Mair, mam 'Isa. | |||
يحيى Yahya | Ioan Fedyddiwr |
| 2 |
Yahya (Ioan) oedd cefnder Isa; does dim cyfeiriad ato yn bedyddio Iesu yn y Coran. | |||
عيسى Isa | Iesu |
| 3 |
Ystyrir Isa yn un o broffwydi pennaf Islam, fel Eisa al-Maseeh, (Iesu y Meseia). Nid yw'n cael ei dderbyn fel unig Fab Duw ond yn hytrach fel nabi a rasul (negesydd) Duw. | |||
محمد Muhammed | Ahmad أحمد |
| 294 |
I Fwslemiaid uniongred, Muhammed yw'r olaf o'r proffwydi. Sefydlodd grefydd Islam ar ddechrau'r 7g. | |||
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Proffwydi Islam, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.