Awdures yw Siân Eirian Rees Davies (ganwyd 1981).
Siân Eirian Rees Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1981 Bangor |
Man preswyl | Penrhyn Llŷn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr |
Gwobr/au | Gwobr Goffa Daniel Owen |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cafodd Davies ei geni ym Mangor yn 1981 a'i magu ar fferm ym Mhen Llŷn. Aeth i ysgolion cynradd Morfa Nefyn ac Ysgol Gynradd Nefyn, Ysgol Uwchradd Botwnnog a Choleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor gan ennill gradd yn y Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol a Gradd Meistr yn y Celfyddydau.
Roedd yn diwtor Cymraeg ail-iaith am gyfnod yng Ngholeg Iâl Wrecsam cyn dychwelyd i'w chartref ym Mhwllheli. Hi oedd rheolwr cyntaf Canolfan Dreftadaeth Cae'r Gors, hen gartref Kate Roberts, pan agorodd yn 2007.
Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005 gyda'i nofel hanesyddol I Fyd Sy Well am y Cymry yn ymfudo i Wladfa Patagonia.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Siân Eirian Rees Davies, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.