Seiclwraig trac a chyn rhwyfwr ydy Rebecca Romero (ganwyd 24 Ionawr 1980, Twickenham, Llundain Fwyaf), a enillodd fedal arian yn rhwyfo quadruple sculls Gemau Olympaidd 2004 yn Athen.
Y flwyddyn ganlynol roedd hi'n aelod o dîm Prydain a enillodd Pencampwriaethau'r Byd quadruple sculls yn Gifu, Japan.
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Rebecca Romero |
Dyddiad geni | 24 Ionawr 1980 |
Taldra | 1.83 |
Pwysau | 78kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd a Trac |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Treial Amser a Pursuit ar y trac |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2007 | scienceinsport.com |
Prif gampau | |
Pencampwr Prydain | |
Golygwyd ddiwethaf ar 9 Hydref 2007 |
Yn 2006, penderfynodd Romero ymddeol o'r byd rhwyfo, yn rhannol oherwydd problemau gyda'i chefn, a dechreuodd seiclo gyda'r bwriad o ennill ail fedal Olympaidd mewn chwaraeon gwahanol.
Yn Rhagfyr 2006, enillodd fedal arian yng nghymal Moscow, Cwpan y Byd Trac UCI, ei ras seiclo rhyngwladol gyntaf, gan golli allan ar yr aur i'w chyd Brydeinwraig, Wendy Houvenhagel. Cystadlodd Romero a Houvenhagel erbyn ei gilydd unwaith eto yn y rownd derfynol yng nghymal Manceinion yn Ebrill 2007.
Enillodd fedal ym Mhencampwriaethau seiclo'r Byd am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2007 gydag arian yn y Pursuit. Fe aeth cam ymhellach ym Mehncampwriaethau'r Byd 2008, gan ennill y fedal aur, a medal aur ychwanegol fel rhan o dîm pursuit merched gan osod record newydd y byd yn y broses mewn amser o 3:22.415.
Mae Rebecca yn byw yn High Wycombe, Swydd Buckingham.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rebecca Romero, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.