Cyflwyno odlau, chwarae ar eiriau a barddoniaeth rhythmig ar lafar ydy rapio.
Rapio ydy prif elfen cerddoriaeth hip hop, er bod tarddiad rapio yn mynd yn ôl ganrifoedd, ymhellach cyn diwylliant hip hop. Gellir cyflwyno rap i guriad neu'n ddi-gyfeiliant. Defnyddir y term i ddisgrifio geiriau cyflym ar lafar sy'n mynd yn ôl i cyn y ffurf cerddorol, a'i ystyr gwreiddiol oedd "i daro". Defnyddiwyd y term yn Saesneg ers yr 16g, a golygai "i ddweud" rhywbeth ers y 18g. Roedd yn rhan o dafodiaith Affricanaidd-Americanaidd yn y 1960au i olygu "i sgwrsio", ac yn fuan wedi hyn defnyddiwyd y term yn ei ystyr presennol i ddynodi'r arddull cerddorol. Erbyn heddiw, cysylltir y termau "rap" a "rapio" gyda cherddoriaeth hip hop.
Ymhlith grwpiau ac unigolion sy'n rapio yn y Gymraeg mae:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rapio, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.