Mae Pont Manhattan yn bont grog ar draws yr Afon Dwyrain yn Ninas Efrog Newydd, rhwng Manhattan a Brooklyn.
Hyd y bont yw 6855 troedfedd. Mae’n un o bedair pont rhwng Manhattan a Long Island. Cynlluniwyd y bont gan Leon Moisseiff ac adeiladwyd gan Gwmni Pont Phoenix o Phoenixville, Pensylvania. Agorwyd y bont ar 31 Rhagfyr 1909.
Math | pont grog, pont ddeulawr, pont ffordd, pont reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 31 Rhagfyr 1909 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Manhattan, Brooklyn |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 40.7072°N 73.9908°W |
Hyd | 2,090 metr |
Statws treftadaeth | lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA, New York State Register of Historic Places listed place, New York City Landmark |
Manylion | |
Deunydd | dur |
Crewyd y cynllun cynharaf gan R. S. Buck. Buasai’r bont yn bont grog, yn cynnwys cablenni dur carbon a phâr o dyrrau gyda wyth coes. Buasai’r bont 1470 troedfedd o hyd, gyda darnau eraill, 725 troedfedd yr un, yn arwain at y darn canolog. Cyhoeddwyd cynllun ym 1903, yn sôn am dramffordd a threnau reilffyrdd uchel dros y bont Bu farw 3 gweithiwr mewn caisson, yn trio paratoi sail ar gyfer y tŵr agosach at Brooklyn. ym 1903. Rhoddwyd grant o $10,000,000 ym Mai 1904, ar sail y byddai gwaith ar y bont yn dechrau yn ystod 1904. Cwynodd y Comisiwn Celf Dinesig am gynllun y bont ym Mehefin 1904, yn arafu’r proseso adeiladu. Datgelwyd cynllun newydd gan Gomisiwnydd Pontydd Dinas Efor Newydd (Gustav Lindenthal) yn cydeithio gyda Henry Hornbostel. Buasai’r tyrrau i gyd yn cynnwys 4 colofn, cryfhawyd ar letraws a chysylltwyd i’w sail gan golynnau hydredol.. Ardurnasai’r tyrrau gyda manylion Ffrengig Modern, a buasai neuaddau ar gyfer cyfarfodydd tu mewn sail y bont. Gwrthodwyd cynllun Lindenthal hefyd oherwydd dadl dros ddefnyddio ‘eyebars’ yn hytrach na chablenni. Penderfynwyd defnyddio cablenni ym Medi. Diswyddwyd Lindenthal a chomisiynwyd Leon Moisseiff i greu cynllun newydd. Cymerodd George Best le Lindenthal fel comisiwnydd pontydd. Cymerodd Carrère a Hastings le Hornbostel fel cynghorwyr penseiriol.
Dechreuwyd gwaith gosod y cablenni rhwng y tyrrau ym Mehefin 1908. Roedd cost y bont wedi codi at $22 miliwn. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd y cablenni i gyd yn eu lle. Rhoddwyd cytundeb y gwaith dur at Gwaith Dur Phoenix, Phoenixville, Pennsylvania.
gosodwyd y trawst cyntaf yn Chwefror 1909 Erbyn Ebrill, roedd y mwyafrif ohonynt yn eu lle.
Awgrymodd Comisiwn Trafnidiaeth Gyflym Dinas Efrog Newydd adeiladu llinell o’u rheilffyrdd tanddaearol dros y bont ym 1905., a chadarnhawyd eu cynllun ym 1907.. Gofynnodd Comisiwn Gwasanaeth Gyhoeddus Dinas Efrog Newydd am ganiatád i ddechrau gwaith adeiladu ym Mawrth 1908. a chafwyd caniatád ym Mai.
Roedd gorymdaith gan 100 o bobl dros y bont ar 5 Rhagfyr 1909. Agorwyd y bont ar 31 Rhagfyr 1909 gan maer Efrog Newydd, George B. McClellan Jr. Achoswyd difrod i’r bont gan dân ym Mawrth 1910.
Crewyd cynllun rhwng 1910 a 1912 gan Carrère a Hastings i adeiladu mynediad i’r bont ar ochr Manhattan, yn rhan o gynllun “City Beautiful” a hefyd un llai ar ochr Brooklyn. Cwblhawyd y gwaith ar ochr Manhattan ym 1915 ac ar ochr Brooklyn yn Nhachwedd 1916.
Ychwanegwyd ffordd ar lefel uwch y bont ym 1922.
Gosodwyd llifoleuadau a ffensys ym 1951 yn ystod y Rhyfel Oer.Symudwyd y peilonau ar ben Brooklyn y bont i Amgueddfa Brooklyn ym 1963 er mwyn llydaenu’r ffordd.
Gogwyddodd y bont oherwydd y nifer o trenau’n defnyddio un ochr y bont, ers adeiladu’r rheilffordd ym 1917. Trwsiwyd y bont ym 1956.
Erbyn 1978 roedd angen trwsio Pont Manhattan a phontydd eraill a rhoddwyd arian gan Gynulliad yr Unol Daleithiau. Dechreuodd gwaith ym 1982 a rhoddwyd grant o $50 miliwm ym 1985 a dechreuwyd gwaith yn yr un blwyddyn. Rhoddwyd bae â nifer anhafal o drenau’n croesi’r bont, yn ogystal â diffyg gwaith cynnal a chadw yn ystod creisis cyllidol y 1970au.
Roedd gwaith trwsio ar y bont rhwng 1986 a 2001.
Ail-agorwyd llybr ar ochr ddeheuol y bont ar gyfer Cerddwyr a Seiclwyr ym Mehefin 2001.Agorwyd llwybr ar ochr ogleddol yn 2004. Erbyn diwedd yr holl waith trwsio, y cost oedd $800 miliwn. Trwsiodd y ffordd ar y lefel is rhwng 2004 a 2008.
Trefnwyd digwyddiadau i ddathlu canmlyddiant y bont yn Hydref 2009, gan gynnwys gorymdaith a thân gwyllt. Daeth y bont yn gyfarwyddnod peirianyddol cenedlaethol hanesyddol yn 2009 gan Gymdeithas Peirianyddion Sifil America.
Cyhoeddwyd prosiect i newid prif gablen y bont yn 2010 dros cynod o 2 flynedd.Rhoddwyd gytundeb i Skanska i drwsio rhannau’r bont yn 2018, y costio $75.9 miliwn, y gwaith i orffen yn 2021 ac yn cynnwys ffens newydd, trostiau dur newydd a gwaith addurno ar y tyrrau.
Mae gan lefel uwch y bont ffordd ddeuol. Ar y lefel is, mae 3 lôn ddwyffordd, 4 trac, rheilffordd danddaearol. Llwybr i cerddwyr ac un arall i feicwyr. Ar un adeg aeth Ffordd Talaeth Efrog Newydd 27 dros y bont, a bwriadwyd bod Ffordd I-478 yn croesi hefyd. Mae’r bont yn 1480 troedfedd o hyd rhwng y tyrrau a 160 troedfedd o led. Yn cynnwys y rampiau’n arwain at y bont, mae’n 6375 troedfedd o hyd ac mae 134 troedfedd rhwng afon a phont ar benllanw. Mae 4 cablen yn dod o’r tyrrau ac yn dal meini’r bont mewn ardaloedd 225 troedfedd o hyd a 175 troedfedd o led, yn lletach na’r bont yn gyffredinol, yn creu gofod lle gall cerddwyr yn aros am sbel. Cynllunwyd Carrère a Hastings sgwâriau ar ddwy ben y bont.
Cwblhawyd gwaith ar ben Manhattan y bont ym 1915. Mae plasa hirgrwn yn wynebu’r Bowery. Roedd yr arch yn seiliedig ar ‘Porte Saint-Denis ym Mharis, a’r colonâd a plasa ar Sgwâr Sant Pedr yn ninas y Fatican. Roedd creu ardaloedd agored o gwmpas cyffyrdd mawrion yn un o nodweddion y Cynllun Gwella Efrog Newydd, 1907. Roedd cynllun i greu plasa crwn rhwng y pontydd Brooklyn a Manhattan, ond nad aleiladwyd y fath plasa.
Mae 4 ohonynt ar lefel is y bont, gyda’r ffordd rhwngddynt. Mae gwasanaethau N a Q y rheilffordd danddaearol yn defnyddio’r traciau deheuol. Mae gwasanaethau B a D yn defnyddio’r traciau gogleddol.
Pan agorwyd y bont, nad oedd cysylltiad i weddill y rhwydwaith; daeth trenau’r Manhattan Bridge Three Cent Line ar draws y bont o 1910 ymlaen Wedyn, ym 1912, daeth y Brooklyn and North River Line.
Gosodwyd cysylltiad gyda Brooklyn Rapid Transit ym 1915. Symudwyd y gwasanaeth dros y bont yn unig i’r lefel uwch hyd at 1929, pan gorffenodd y wasanaeth. Agorwyd traciau tanddaearol dros y bont ar 22 Mehefin 1915 pan agorwyd y llinell 4th Avenue a llinell Sea Beach i Ynys Coney a Gorsaf reilffordd Stilwell Avenue.
Mae’r cledrau ar y 2 ochr o’r bont, felly gwnaeth trenau’n acosi symudiad i’r bont, yn mwyhau efo trenau hirach a thrymach, a buasai un ochr y bont tua 3 troedfedd yn is na’r llall pan aeth trên drosodd, yn difrodi’r bont. Dechreuodd trwsiad ym 1956, yn costio $30 miliwn o ddoleri. Ail-drefnwyd gwasanaethau yn ystod y cyfnod trwsio.
Dechreuodd ymgyrch trwsio arall yn y 1980au, ac aeth llai o drenau dros y bont fel canlyniad Caewyd y traciau gogleddol yn gyntaf, yn Ebrill 1986. Pan ail-agorodd y traciau gogleddol, caewyd y rhai deheuol, yn Rhagfyr 1988. Roedd pwys o Awdurdod Transit y Ddinas, ac o wleidyddion i ail-ddechrau gwasanaethau ar ochr deheuol y bont, er dywedodd y peiriannwyr bod y bont ddim yn ddiogel. Ar ôl 27 Rhagfyr, anfonwyd gwasanaethau ar ochr ddeheuol y bont trwy dwnnel oherwydd difrod ar y bont, ac roedd ymholiad ynglŷn â’r penderfyniad i anfon trenau dros y bont, ac am ddiogelwchpontydd Efrog Newydd i gyd. Awgrymwyd dyddiad ail-agor ym 1995. Caewyd yr ochr ogleddol tu hwnt i’r oriau prysuraf dros cyfnod o 6 mis. Ail-agorwyd yr ochr ddeheuol ar 22 Gorffennaf 2001 a chaewyd yr ochr ogleddol yn syth. Caewyd yr ochr ddeheuol rhwng Ebrill a Thachwedd 2003. Ail-agorwyd yr ochr ogleddol ar 22 Chwefror 2004, a defnyddiwyd y traciau i gyd am y tro cyntaf ers 18 mlynedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pont Manhattan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.