Opteg yw'r gangen o ffiseg sy'n ymwneud â nodweddion ac ymddygiad golau a'i berthynas â mater.
Mae hefyd yn ymwneud â dyfeisiadau ac offer optig sydd naill ai'n defnyddio golau neu'n ei synhwyro. Gall 'opteg' gyfeirio at nodweddion golau gweladwy, uwchfioled a phelydrau isgoch. Gan fod golau'n donnau electromagnetig, ceir nodweddion digon tebyg gan ymbelydredd electromagnetig eraill e.e. pelydr-X, microdonnau a thonnau radio.
Mae opteg yn cynnwys yr astudiaeth o gwasgariad golau. | |
Enghraifft o'r canlynol | cangen o ffiseg, maes gwaith, sector economaidd |
---|---|
Math | gwyddoniaeth naturiol |
Rhan o | ffiseg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gellir deall y rhan fwyaf o ffenomenâu optegol drwy'r ddefnyddio electromagneteg clasurol i ddisgrifio neu ddiffinio golau, ond yn ymarferol, mae'n anodd cael y llun cyflawn. Mae opteg ymarferol yn cael ei gyflawni drwy'r defnydd o fodelau syml. Y mwyaf cyffredin o'r rhain yw opteg geometrig, sy'n trin golau fel casgliad o donnau sy'n teithio mewn llinellau syth ac sy'n plygu pan maent naill ai'n cael eu hadlewyrchu neu'n treiddio drwy gwrthrychau. Mae opteg ffisegol, fodd bynnag, yn fodel llawer mwy cyflawn a chynhwysfawr, na ellir ei brofi drwy opteg geometrig. Yn hanesyddol, y dull-pelydrau ddaeth yn gyntaf a'r model dull-tonnau wrth ei sodlau. Datblygwyd y syniadau hyn yn y 19g, nes y darganfuwyd fod tonnau golau mewn gwirionedd yn ymbelydredd electromagnetig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Opteg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.