Gwyddoniaeth Naturiol

Ystyr traddodiadol Gwyddoniaeth Naturiol yw astudiaeth o agweddau di-ddynol y byd.

Fel casgliad, gwahaniaethwyd y gwyddoniaethau naturiol oddi wrth diwinyddiaeth a'r gwyddoniaethau cymdeithasol ar un llaw, a'r celfyddydau a dyniaethau ar y llaw arall. Nid yw mathemateg ar ben ei hun yn gwyddoniaeth naturiol, ond mae yn darparu nifer o dullau craidd iddynt. Mae gwyddoniaethau naturiol yn ymgeisio i esbonio gweithiant y byd ar sail prosesau naturiol yn hytrach na prosesau dwyfol. Hefyd, defnyddir y term gwyddoniaeth naturiol ar gyfer nodi "gwyddoniaeth" fel disgyblaeth sy'n dilyn y dull gwyddonol.

Is-ddosbarthiad Gwyddoniaeth Naturiol

Gwyddoniaeth Naturiol  Bioleg

Yr astudiaeth o fywyd yw beioleg (neu weithiau "bywydeg"). Mae'n delio â nodweddion, dosbarthiad, ac ymddygiad organebau, sut mae rhywogaethau'n dod i fodolaeth a'r berthynas sydd ganddynt efo'i gilydd ac efo'r amgylchedd.

Gwyddoniaeth Naturiol  Cemeg

Astudiaeth mater yw Cemeg (Groeg: χημεία), sy'n ymwneud â strwythur a nodweddion cemegau, ynghyd â thrawsnewidiadau ar lefel atomig.

Gwyddoniaeth Naturiol  Ecoleg

Astudiaeth o'r berthynas rhwng organebau a'u hamgylchedd yw Ecoleg (Groeg: oikos yw tŷ a logos ydy gwyddoniaeth). Mae esblygiad ac ecosystem yn dermau perthnasol.

Gwyddoniaeth Naturiol  Ffiseg

Mae ffiseg (o'r Groeg "φυσικός", naturiol, a "φύσις", natur) yn gainc o'r astudiaeth wyddonol o fyd natur. Amcan ffiseg yw canfod y deddfau sylfaenol sy'n llywodraethu mater, ynni, gofod ac amser.

Gwyddoniaeth Naturiol  Gwyddorau Daear

Mae Gwyddorau daear yn cynnwys pob math o astudiaeth o'r Ddaear gan gynnwys astudiaeth cerrig a chramen y Ddaear, sef Daeareg, astudiaeth dŵr, sef Hydroleg, yr hinsawdd a'r tywydd, sef Meteoroleg.

Gwyddoniaeth Naturiol  Seryddiaeth

Astudiaeth wyddonol o'r bydysawd yw Seryddiaeth, gan gynnwys y sêr, Cysawd yr Haul a'r planedau. Mae'n cynnwys arsylwi ac egluro digwyddiadau a tharddiad a datblygiad gwrthrychau ynghyd a'u priodoleddau ffisegol a chemegol.

Tags:

CelfyddydDiwinyddiaethDull gwyddonolDyniaethauGwyddoniaeth cymdeithasolMathemategNatur

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

WrecsamCefnfor yr IweryddFfisegCapreseIrunPlwmOmorisaOwen Morgan EdwardsScarlett JohanssonPussy Riot1980Gregor MendelConwy (etholaeth seneddol)Nos GalanNational Library of the Czech RepublicThe New York TimesRule BritanniaDmitry KoldunFfilm bornograffigCreampieMean MachineBlwyddynEva LallemantHela'r drywWuthering HeightsHanes economaidd CymruAriannegWaxhaw, Gogledd CarolinaSlefren fôrLouvreBugbrooke2020Egni hydroSTwristiaeth yng NghymruHolding HopeSilwairLos AngelesDisturbiaWassily KandinskyCyfalafiaethOriel Genedlaethol (Llundain)St PetersburgAnturiaethau Syr Wynff a PlwmsanSafle cenhadolRhyw geneuol13 AwstIrene González HernándezRSSYnyscynhaearnCyfraith tlodiCyhoeddfaTwo For The MoneyPornograffiYokohama MaryCharles Bradlaugh1977ErrenteriaBadmintonWicilyfrauCaernarfonBlogPysgota yng NghymruComin WikimediaOriel Gelf GenedlaetholEliffant (band)BBC Radio Cymru🡆 More