Mae Oppidum (lluosog oppida) yn air Lladin yn golygu y prif dref mewn ardal weinyddol.
Daw'r gair o'r Lladin cynharach ob-pedum, "mangre wedi ei hamgau". Cysylltir yr oppida yn gyffredinol â'r Celtiaid.
Math | math |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Cyfnod daearegol | Oes yr Haearn |
Disgrifiodd Iŵl Cesar y trefi a welodd yng Ngâl fel oppida, ac mae'r term yn awr yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio unrhyw dref o'r cyfnod cyn y Rhufeiniaid yng nghanolbarth a gorllewin Ewrop. Tyfodd llawer o'r oppida o fryngeiri, ond nid oedd gan bob un amddiffynfeydd sylweddol.
Yr oppida oedd y sefydliadau cynharaf i'r gogledd o'r Alpau y gellir eu disgrifio fel trefi. Nododd Cesar fod gan lwythau Gâl fwy nag un oppidum yn eu tiriogaeth, ond fod rhai'n bwysicach nag eraill. Tyfodd llawer o'r oppida yn drefni Rhufeinig, ond symudwyd rhai ohonynt o ben bryn i'r gwastadedd gerllaw.
Ymhilth yr oppida mwyaf nodedig mae:
Gellir ystyried Traprain Law yn yr Alban yn oppidum neu yn fryngaer fawr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Oppidum, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.